Blog byw: Gŵyl Gwenllian 2023

Y diweddaraf o’r ŵyl ym Methesda heddiw, sy’n dathlu merched y Carneddau

Carwyn
gan Carwyn
IMG_0582

Yn y blog heddiw: y diweddaraf o’r holl weithgareddau a digwyddiadau sy’n digwydd yng Nghanolfan Cefnfaes.

Os ydach chi’n dod draw, cofiwch ‘ychwanegu diweddariad’ eich hun – lluniau, fideos, sylwadau am bopeth i wneud â’r ŵyl.

08:18

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ŵyl Gwenllïan heddiw. Bydd y digwyddiad Celf a Llenyddiaeth yn cael ei gynnal yn yr Ystafell Gymunedol newydd ar lawr uchaf Canolfan Cefnfaes. **Noder, oherwydd y gwaith adeiladu sy’n mynd rhagddo, nid yw’n bosibl cael mynediad o’r llawr isaf yr adeilad** felly defnyddiwch y fynedfa ar Lôn Coetmor. Mae rhagor o fanylion yn y Datganiad Mynediad.