Blog byw: Gŵyl Gwenllian 2023

Y diweddaraf o’r ŵyl ym Methesda heddiw, sy’n dathlu merched y Carneddau

Carwyn
gan Carwyn
IMG_0582

Yn y blog heddiw: y diweddaraf o’r holl weithgareddau a digwyddiadau sy’n digwydd yng Nghanolfan Cefnfaes.

Os ydach chi’n dod draw, cofiwch ‘ychwanegu diweddariad’ eich hun – lluniau, fideos, sylwadau am bopeth i wneud â’r ŵyl.

10:40

Gweithgaredd celf i blant am ddim – dewch i greu 🙂

09:23

Mae gweithgaredd celf i blant ymlaen am 10:30 efo Menna T. Fydd Hwb Ogwen hefyd yno i ddarparu cinio am ddim i’r mynychwyr. Gobeithio gweld chi yno!

08:31

IMG_0561

Dyma’r rhaglen lawn heddiw, yn cychwyn efo sesiwn celf i blant am 10.30 ac yna sgyrsiau celf a llenyddiaeth o 12.30 tan 4!

08:25

Datganiad Mynediad

08:18

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ŵyl Gwenllïan heddiw. Bydd y digwyddiad Celf a Llenyddiaeth yn cael ei gynnal yn yr Ystafell Gymunedol newydd ar lawr uchaf Canolfan Cefnfaes. **Noder, oherwydd y gwaith adeiladu sy’n mynd rhagddo, nid yw’n bosibl cael mynediad o’r llawr isaf yr adeilad** felly defnyddiwch y fynedfa ar Lôn Coetmor. Mae rhagor o fanylion yn y Datganiad Mynediad.