Annog cefnogi busnesau Ogwen

Ymweliad â Moelyci’n gyfle i wneud apêl

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
Llun

Catrin Wager, Siân Gwenllian a Beca Roberts

Mae Aelod o’r Senedd lleol wedi annog trigolion i fanteisio ar barcio am ddim Cyngor Gwynedd i gefnogi busnesau lleol.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod Cyngor Gwynedd, fel rhan o ymdrech i gefnogi busnesau lleol dros y Nadolig, yn darparu parcio am ddim yn eu meysydd parcio bob dydd o 11am rhwng 9 a 26 Rhagfyr.

Mewn ymweliad â Fferm Moelyci yn Nyffryn Ogwen, mae Siân Gwenllian wedi annog trigolion i wneud defnydd o’r cynnig i hybu’r economi leol a gwario eu harian mewn siopau annibynnol y gaeaf hwn.

“Dwi’n falch iawn o weld Cabinet Cyngor Gwynedd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr adeg yma o’r flwyddyn i fusnesau lleol.

“Fel cyn Bencampwr Busnesau Bach Gwynedd, dwi’n ymwybodol iawn o fanteision economaidd, amgylcheddol a chymunedol prynu’n lleol.

“Mae’r cynnydd mawr mewn siopa ar-lein yn golygu bod strydoedd mawr yn llawn cadwyni masnachol, byd eang yn perthyn i’r gorffennol.

“Ond does dim rhaid i hynny fod yn beth drwg.

“Mae busnesau annibynnol yn rhoi dôs go dda o bersonoliaeth i stryd fawr. Maen nhw’n medru adlewyrchu cymeriad ardal.

“Heb sôn am y budd economaidd. Drwy wario mewn busnesau annibynnol yn ein cymunedau, mae’r arian hwnnw’n mynd yn ôl i’r economi leol. Mae fel caseg eira.

“Mae perchnogion busnesau lleol yn ail-fuddsoddi elw yn y gadwyn gyflenwi leol. Maen nhw’n cyflogi pobl leol, ac yn fwy tebygol o dalu cyflog cyfartalog uwch na chadwyni masnachol. Maen nhw’n noddi sefydliadau ac elusennau lleol hefyd.

“A dwi’n gobeithio y bydd parcio am ddim gan y Cyngor yn anogaeth bellach i siopa’n lleol.”

Mae Cyngor Gwynedd yn cyfeirio trigolion at wefan sy’n hyrwyddo busnesau lleol sy’n cynnig “dewis personol.” Gellir dod o hyd i’r safle yma.