Mae hi wedi bod yn wythnos brysur iawn i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen yn gwneud profiad gwaith.
Yma ym Mhartneriaeth Ogwen mae Nina Rees, Jamie Williams, Ceri Owen, Rebecca Burley, a George Rowlands wedi bod yn helpu Judith gyda’r garddio yn y rhandiroedd drws nesaf i Blas Ffrancon. Caswont gefnogi Lucinda gyda Chadwyn Ogwen a Phantri Ogwen, fi (Tom) gyda’r beiciau, Chris gyda holiaduron twristiaeth, a Jo Hinchliffe gyda sesiynau Mentergarwch yn y Gofod Gwneud!
Dywedodd Lucinda: “Mae wedi bod yn ysbrydoledig eu gweld mor awyddus a gweithgar. Mae’n nhw wedi cymryd rhan wirioneddol yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac maen nhw wedi bod yn help mawr.
“Mae pacio’r bwyd ar gyfer Cadwyn Ogwen fel arfer yn cymryd tair awr i mi, ond heddiw fe wnaethon ni hynny mewn hanner awr!”
A diolch mawr i Donna am gydlynu’r holl weithgareddau.
Mae’r lluniau uchod yn cynnwys peth o’r cynnyrch y buodd y disgyblion yn ei greu gyda Jo yn y Gofod Gwneud. Mae’r rhain bellach ar werth yn Siop Ogwen.
Mynnwch eich archebion yn fuan er mwyn peidio â chael eich siomi!