Pwy sydd awydd bod yn brif hyfforddwr rygbi Bethesda?

Y clwb yn chwilio am berson gyda chymhwyster lefel 2

Carwyn
gan Carwyn

Mae Clwb Rygbi Bethesda yn chwilio am rywun i fod yn brif hyfforddwr y clwb ar gyfer y tymor nesaf.

Wrth edrych ymlaen at dymor 2022/23, mae’r clwb yn awyddus i benodi prif hyfforddwr rygbi, gyda chymhwyster lefel 2 neu uwch i gynnal ymarferion o’r safon uchaf. Bydd y prif hyfforddwr hefyd yn trefnu a monitro datblygiad y timau dynion yng Nghlwb Rygbi Bethesda.

Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus gydweithio yn agos gyda rheolwr y tîm ynghyd â dau is-hyfforddwr.

Ymhlith y cyfrifoldebau, bydd y prif hyfforddwr yn cynnal sesiynau ymarfer o ansawdd a fydd yn datblygu’r chwaraewyr ynghyd â chynnig adborth adeiladol, gan gynnal perthynas gadarnhaol gyda’r chwaraewyr a’r tîm hyfforddi.

Mewn neges ar Facebook, dywed y clwb: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i unrhyw hyfforddwr sydd gyda phrofiad a hefyd i unrhyw hyfforddwr ifanc sydd yn rhannu’r yr un amcanion a’r clwb. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â info@rygbipesda.com neu Wil Sandison.”

Felly, beth amdani, pwy sydd awydd?