“Braf gweld lliwiau’r hydref yn y coed, y mês cyntaf yn egino a dŵr yr Ogwen yn ddu ac oer yn rhuthro dros y creigiau. Cyfle i wir gwerthfawrogi lle dan ni’n byw.” Dyma farn un o’r trigolion ddaeth ar ein taith gerdded drwy Barc Meurig yr wythnos ddiwethaf.
Tyrd am dro yn dy fro
Aeth 8 ohonom ni ar y daith gyntaf hon yng nghyfres ‘Tyrd am dro yn dy fro’ y gaeaf yma.
Y syniad tu ôl i’r teithiau hyn, mwy na dim byd arall, ydi cael rheswm i fynd allan yn ystod wythnosau oer a llwm y gaeaf.
Mae’n haws pan mae rhywun arall yn dod efo chi, a theithiau bach ydyn nhw, rhwng 20 a 60 munud yr un, felly maen nhw ar gael i unrhyw un. Gall cerdded hamddenol, ar wahân i fod yn dda i’r corff, sbarduno’r meddwl a’ch rhoi mewn lle da yn gyffredinol.
Roedd pawb wedi mwynhau cwmni ei gilydd, ac meddai un: “Faswn i byth wedi mynd allan fy hun, a’r bobl roeddwn i’n arfer mynd efo nhw bellach yn fwy ffit na fi, a dwi ddim isio dal neb yn ôl.”
Mae mynd i lefydd cyfarwydd yn gwneud i ni sylwi beth sy’n newid o dymor i dymor, ond byddwn ni’n mentro i lefydd rhai milltiroedd i ffwrdd hefyd yn y misoedd i ddod.
Gwerthfawrogwyd y cyfle i orffen efo panad yng Nghaffi Seren hefyd, i barhau’r sgwrs am dipyn yn hirach.
Bydd y gylchdaith nesaf yn cychwyn o Gaffi Blas Lôn Las ym Moelyci ar 12 Rhagfyr 2022 am 11:00, ac os hoffech chi gael pas yno yn y bws mini cymunedol, cysylltwch efo menna@ogwen.org neu 07967 115508 i drefnu.