Gyda blwyddyn newydd ysgol ar fin cychwyn, mae’n debyg fod sawl teulu yn paratoi ar gyfer bore Llun.
Cael y bagiau’n barod, gwalltiau pawb wedi torri ac wrth gwrs gwneud yn siŵr fod y gwisgoedd ysgol yn dal i ffitio!
Da i’r boced a’r amgylchedd
Gyda’r argyfwng costau byw yn taro teuluoedd yma yn Nyffryn Ogwen fel gweddill y wlad, mae yna gynllun blaengar allai helpu i arbed arian a’r amgylchedd yr un pryd.
Mae’n bosib iawn eich bod wedi darllen am y cynllun ailddefnyddio dillad ysgol neu wedi cyfrannu ffrog, siwmper neu drowsus sydd wedi mynd yn rhy fychan i’r plant.
Diolch i’r cynllun sydd wedi gweld grŵp o wirfoddolwyr yn golchi a sortio cannoedd o eitemau dillad ysgol y dyffryn, mae’r dillad ar gael i’w harchebu ar wefan Petha.
Sut mae’n gweithio?
- Creu cyfri ar lein ar wefan Petha.
- Archebu gwisg.
- Casglu’r wisg o Lyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Bethesda (yn ystod oriau agor arferol).
- Dod a fo nôl ar ddiwedd y flwyddyn ysgol (ond da ni’n dallt fod dillad yn gallu mynd ar goll/torri felly peidiwch poeni os da chi methu!).