Etholiadau’r cyngor sir – pwy sy’n sefyll

Mae’r enwau i mewn ar gyfer cynrychioli wardiau’r ardal ar Gyngor Gwynedd

FPqj1YqWQAAY80S

Gyda rhywfaint o addasu ffiniau wardiau Dyffryn Ogwen ar gyfer etholiad Cyngor Gwynedd mis Mai, mae’r enwebiadau wedi cau ac enwau’r ymgeiswyr wedi eu cadarnhau.

Diwrthwynebiad

Mae Rheinallt Puw wedi ei ethol yn ddiwrthwynebiad i gynrychioli ward Canol Bethesda. Bydd yn cynrychioli ward debyg i’r Ogwen bresennol y bu’n aelod drosti ers 2017, a hynny yn enw Plaid Cymru.

Felly hefyd Paul Rowlinson sydd wedi ei ethol heb wrthwynebydd. Bydd yn cynrychioli Rachub ar y cyngor sir, ac yntau yn aelod ers pum mlynedd fel aelod Plaid Cymru.

Aelod newydd

Bydd Einir Wyn Williams yn aelod newydd ar y Cyngor o fis Mai. Bydd hi’n ymuno â charfan Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd gan gynrychioli ward Gerlan.

Pwy sy’n y ras?

Bydd yna etholiad ar gyfer ward Tregarth a Mynydd Llandygai. Mae’r aelod fu’n cynrychioli’r ardal, Dafydd Owen yn sefyll lawr. Mae Beca Roberts yn sefyll ar ran Plaid Cymru, John Hardy yn ymgeisydd Plaid
Geidwadol Cymru a Huw Vaughan Jones ar ran Llafur Cymru.

Mae tri hefyd yn y ras i gynrychioli Arllechwedd ar Gyngor Gwynedd. Mae Dafydd Meurig, yr aelod presennol yn sefyll ar ran Plaid Cymru, gyda Lewis Brown yn Aelod Annibynnol a Bernard Arthur Ronald Gentry ar ran y Ceidwadwyr.

Pleidleisio

Cawn weld sut aiff hi yn yr etholiad ar ddydd Iau, 5 Mai. Os oes yna etholiad yn eich ardal a’ch bod am fwrw eich pleidlais, cofiwch fod rhaid i chi gofrestru erbyn 11:59pm ar 14 Ebrill. Am fanylion sut mae trefnu ewch i’r wefan.