Ron i wedi clywed am y Gofod Gwneud yng Nghanolfan Cefnfaes, ond oherwydd mod i fawr o artist neu berson “techy” don i erioed wedi mentro i fyny. Er hynny, ges i fy siomi ar yr ochr orau wrth fynychu’r noson agored efo fy merch nos Lun.
Gaethon ni ein dangos rownd gan Steve, y technegydd, ac esboniodd yn fras y peiriannau ac adnoddau sydd ar gael i’r cymuned. Roedd yr argraffydd 3d wrthi’n creu bocs trysor bach tra roedd Steve yn arbrofi efo llosgi patrymau ar lechen efo’r torrwr laser.
Yn ogystal â pheiriannau “overlocker” a brodwaith, mae’n bosib argraffu ar ddefnydd, creu sticeri neu arwyddion allan o finyl. Mae yno hefyd adnoddau i drosglwyddo lluniau ar fygiau, defnydd, pren a mwy.
Defnyddiodd fy merch y torrwr laser i greu addurniadau llechi, sy wedi dod allan yn hyfryd.
Fydd na sesiynau pob nos Lun tan y Nadolig o 4 tan 8 – fyny grisiau yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda. Beth am ymuno i ddysgu rhywbeth newydd?