Brêns busnes a chreadigaethau craff

Mae plant ysgol Llanllechid wedi bod yn dangos eu sgiliau creadigol a’u brêns busnes

gan Tom Simone

Mae plant Ysgol Llanllechid wedi bod yn dangos eu sgiliau creadigol a’u brêns busnes fel rhan o brosiect mentergarwch wedi ei drefnu gan Siop Ogwen a Gofod Gwneud Partneriaeth Ogwen.

Dan arweiniad arbenigol Alun Davies yng Ngofod Gwneud Canolfan Cefnfaes, lluniodd y plant gynnyrch unigryw fydd ar gael i’w werthu trwy Siop Ogwen.

Mae’r cynnyrch yn cynnwys mygiau Ysgol Llanllechid a coasters yn enwi mynyddoedd lleol.

Stoc gyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd felly bydd Siop Ogwen yn cymryd archebion am y cynnyrch fel eu bod yn barod i’w casglu o’r siop ym mis Medi.

Yn ogystal â’r gwaith gydag Ysgol Llanllechid, mae’r arbenigwr Gofodau Gwneud, Jo Hinchliffe o Gerlan wedi bod yn arwain sesiynau efo plant hŷn. Bydd y cynnyrch yma hefyd yn cael ei werthu yn Siop Ogwen maes o law.

Bwriad y prosiect yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gael cyfle i greu cynnyrch, ei becynnu a’i farchnata ac yna ei werthu mewn siop leol. Edrychwn ymlaen at weld entrepreneuriaid ifanc y Dyffryn yn datblygu sgiliau a pwy a ŵyr, efallai fod darpar fusnesau newydd ar y gorwel!

“Mae wedi bod yn bleser gallu creu cynnyrch efo’r plant a’u cael nhw i ddefnyddio’r offer gwych sydd ar gael i gymuned Dyffryn Ogwen yn y Gofod Gwneud,” meddai Alun Davies.

“Mae’r prosiect yn datblygu sgiliau creadigol ond masnachol hefyd ac mae’n grêt gweld y plant yn ymddiddori gymaint.”

Meddai Elen Williams o Siop Ogwen: “Mae hi’n wych cydweithio ar brosiect fel hyn sy’n cysylltu’r gofod gwneud efo siopau’r Stryd Fawr.

“Mae’r adnoddau sydd yn y gofod gwneud yn wych a gobeithio y bydd crefftwyr eraill yr ardal yn manteisio ar y cyfle. Mae Siop Ogwen wrth ein boddau’n cael mwy o gynnyrch i’w werthu a da ni’n edrych ymlaen at hyrwyddo cynnyrch newydd plant y fro.”

Ariannwyd y sesiynau hyn trwy Gronfa Cymunedau Mentrus Cyngor Gwynedd o Gronfa Adfywio Bro Llywodraeth San Steffan.