Mae plant Ysgol Llanllechid wedi bod yn dangos eu sgiliau creadigol a’u brêns busnes fel rhan o brosiect mentergarwch wedi ei drefnu gan Siop Ogwen a Gofod Gwneud Partneriaeth Ogwen.
Dan arweiniad arbenigol Alun Davies yng Ngofod Gwneud Canolfan Cefnfaes, lluniodd y plant gynnyrch unigryw fydd ar gael i’w werthu trwy Siop Ogwen.
Mae’r cynnyrch yn cynnwys mygiau Ysgol Llanllechid a coasters yn enwi mynyddoedd lleol.
Stoc gyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd felly bydd Siop Ogwen yn cymryd archebion am y cynnyrch fel eu bod yn barod i’w casglu o’r siop ym mis Medi.
Yn ogystal â’r gwaith gydag Ysgol Llanllechid, mae’r arbenigwr Gofodau Gwneud, Jo Hinchliffe o Gerlan wedi bod yn arwain sesiynau efo plant hŷn. Bydd y cynnyrch yma hefyd yn cael ei werthu yn Siop Ogwen maes o law.
Bwriad y prosiect yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gael cyfle i greu cynnyrch, ei becynnu a’i farchnata ac yna ei werthu mewn siop leol. Edrychwn ymlaen at weld entrepreneuriaid ifanc y Dyffryn yn datblygu sgiliau a pwy a ŵyr, efallai fod darpar fusnesau newydd ar y gorwel!
“Mae wedi bod yn bleser gallu creu cynnyrch efo’r plant a’u cael nhw i ddefnyddio’r offer gwych sydd ar gael i gymuned Dyffryn Ogwen yn y Gofod Gwneud,” meddai Alun Davies.
“Mae’r prosiect yn datblygu sgiliau creadigol ond masnachol hefyd ac mae’n grêt gweld y plant yn ymddiddori gymaint.”
Meddai Elen Williams o Siop Ogwen: “Mae hi’n wych cydweithio ar brosiect fel hyn sy’n cysylltu’r gofod gwneud efo siopau’r Stryd Fawr.
“Mae’r adnoddau sydd yn y gofod gwneud yn wych a gobeithio y bydd crefftwyr eraill yr ardal yn manteisio ar y cyfle. Mae Siop Ogwen wrth ein boddau’n cael mwy o gynnyrch i’w werthu a da ni’n edrych ymlaen at hyrwyddo cynnyrch newydd plant y fro.”
Ariannwyd y sesiynau hyn trwy Gronfa Cymunedau Mentrus Cyngor Gwynedd o Gronfa Adfywio Bro Llywodraeth San Steffan.