Llongyfarchiadau gwresog i Ieuan Wyn ar gael ei urddo yn Gymrawd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cyfarfod rhithiol o Gynulliad Blynyddol.
Yr Athro Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, oedd yn cyflwyno Ieuan.
“Mae Ieuan Wyn yn fardd a llenor nodedig, ac enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog yn 1987,” meddai.
“Dyfernir y gymrodoriaeth hon iddo am ei waith gwirfoddol fel ymgyrchydd a’i ymrwymiad ymarferol wedi hynny i hyrwyddo cenhadaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.”
Fel rhan o Gynulliad Blynyddol y Coleg, fe urddir unigolion yn Gymrodyr er Anrhydedd er mwyn cydnabod eu cyfraniadau allweddol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd. Mae cyfanswm o 24 o unigolion wedi eu hurddo yn Gymrodyr gan gynnwys y diweddar Dr John Davies, Dr Meredydd Evans a’r Athro Gwyn Thomas.
Mae rhagor o’r hanes ar gael yn rhifyn mis Ebrill o Lais Ogwan.