Troi Gwener Du yn Gwener Gwyrdd

Prosiect newydd yn annog trigolion Dyffryn Ogwen i droi Dydd Gwener Du yn Gwener Gwyrdd – drwy roi yn hytrach na phrynu

Rhai o bartneriaid Petha: Kerry Walters o Wasanaeth Llyfrgell Gwynedd, Catrin Wager Cydlynydd Petha a Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen y tu allan i Lyfrgell Dyffryn Ogwen a fydd yn derbyn eitemau

Fel y bydd rhai ohonoch yn gwybod, mae ‘Petha’ yn brosiect newydd sy’n ceisio sefydlu Llyfrgell y Petha yn Nyffryn Ogwen, ynghyd â chymunedau Dyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog.

“Mae’r syniad tu ôl i Lyfrgelloedd Petha yn syml – ma nhw ‘run peth a llyfrgell draddodiadol, ond yn hytrach na benthyg llyfrau, mae modd benthyg petha,” meddai Cydlynydd Petha, Catrin Wager

“Drwy fenthyg a rhannu yn hytrach na phrynu, gellir arbed arian, arbed gofod yn eich cartrefi, lleihau gwastraff a lleihau eich ôl-troed carbon.”

Gwener Gwyrdd 

Aeth Catrin ymlaen: “Un o’r camau cyntaf ydy ymgynghori hefo’r cymunedau am beth hoffe nhw ei weld yn eu llyfrgell petha nhw ac mae’r ymgynghoriad bellach yn fyw ar ein sianeli cymdeithasol (@pethagwynedd). Yr ail gam ydy ceisio casglu ‘Petha’ i’r llyfrgell, a dyna’r syniad tu ôl i Gwener Gwyrdd.

“Mae na bwysa mawr i ni fod yn gwario fel arfer ar Ddydd Gwener Du, yn aml ar nwyddau sydd ddim yn angenrheidiol. Ond leni da ni’n gofyn i drigolion ystyried cyfrannu eitemau i’r llyfrgell petha yn hytrach na mynd allan i wario. Fydd yr eitemau yma wedyn yn cael eu cynnig ar fenthyg i’r gymuned drwy’r Llyfrgell.”

Chwilio am betha

Mae Petha yn chwilio am ystod eang o eitemau; o dŵls i offer garddio, nwyddau campio, teganau, gemau ac offer crefftio.

“Da ni’n chwilio am y math y betha da chi’n prynu, ond ddim yn eu defnyddio’n aml.  Esiamplau da fydda teclyn stripio papur wal; y math o beth da chi’n ddefnyddio un waith, ond wedyn ma’n eistedd ar silff am flynyddoedd, neu jetwasher sydd ella’n cael ei ddefnyddio unwaith y flwyddyn, ond yn eistedd yn segur weddill yr amser,” eglura Catrin.

“Da ni’n fodlon derbyn unrhyw beth allai fod yn fuddiol i eraill, gydag un ystyriaeth bwysig; rhaid iddyn nhw fod yn addas i eraill eu defnyddio. Felly mae’n rhaid iddyn nhw fod yn lan, yn gyflawn ac yn gweithio!

“Da ni hefyd yn edrych i gasglu teganau neu eitemau fyddai’n addas eu rhannu fel anrhegion Nadolig yn agosach at yr amser. Mae’n debygol y bydd sawl un yn wynebu Nadolig heriol y flwyddyn yma, felly os oes gan unrhyw un ohonoch eitemau heb eu hangen yn eich cartref ac a fyddai’n gwneud anrheg da byddem ni’n hapus i’w derbyn yn Petha.”

Newid hinsawdd

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Dolan, sy’n rhwydwaith o dair menter gymunedol; Partneriaeth Ogwen, Cwmni Bro Ffestiniog, ac Yr Orsaf,  mewn partneriaeth a Chyngor Gwynedd.  Fel eglura un o bartneriaid y prosiect, Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen

“Prosiect i atal tlodi a gweithredu ar faterion newid hinsawdd ydy hwn yn ei hanfod,” meddai Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen.

“Rydym yn ceisio annog diwylliant o rannu a chyd-berchnogi i herio’r dywilliant o or-brynu sydd mor niweidiol i’n planed ni. Mae Gwener Gwyrdd yn gyfle gwych i ni hyrwyddo’r amcanion yma, ac i annog pobl i feddwl yn wahanol am brynu a pherchnogi nwyddau y Nadolig yma.”

Fe fydd modd gollwng eitemau yn Llyfrgell Dyffryn Ogwen ym Methesda ar Ddydd Gwener Gwyrdd (26 Tachwedd) yn ystod oriau agor, ac mi fydd y llyfrgell yn parhau i dderbyn nwyddau tan y Nadolig. Bydd eitemau wedyn yn cael eu catalogio ac yn cael eu paratoi i fod ar gael i’r cymunedau eu benthyg yn y flwyddyn newydd.

Dywed Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd: “Da ni’n falch iawn o weld Petha’n cael ei beilota yn ein Llyfrgelloedd; mae’n esblygiad naturiol o rôl llyfrgelloedd ac yn rhoi gogwydd newydd i wasanaeth sy’n gyfarwydd iawn i ni.

“Gall Llyfrgelloedd y Petha ddod a buddion amlwg i’r amgylchedd, ac i’n trigolion, ac mae’n adeliadu ar y syniad o fenthyg sydd wedi bod yn sylfaen i Lyfrgelloedd erioed.”

Mae mwy o wybodaeth am Petha i’w weld ar Twitter, Facebook neu drwy ebostio cydlynydd y prosiect catrin@ogwen.org