Stryd fawr Bethesda erioed wedi edrych mor lân!

Fideo satisfying o’r pafin yn cael ei llnau.

gan Tom Simone

Dywedodd Dylan o Ffenestri Sgwâr: “Roedd lot fawr o bobl yn cwyno am olwg y stryd fawr – baw ci, chewing gum ayyb.

“Nes i gynnig llnau’r pafin gyda’r jetwasher. Gyda help gan y Cynghorydd Rheinallt Puw mi gafwyd cyllid gan y Loteri, Treftadaeth y Byd, a phobol leol i wneud y gwaith.

“Dwi wedi bod ati ers tair wythnos, a gobeithio ei gorffen heddiw!

“Mae llawer o bobl wedi canmol y gwahaniaeth.

“Gyda thipyn o lwc bydd pobl yn parchu’r stryd ychydig bach mwy.”

Am fanylion busnes Ffenestri Sgwâr, a rhagor, cliciwch yma