gan
Tom Simone
Dywedodd Dylan o Ffenestri Sgwâr: “Roedd lot fawr o bobl yn cwyno am olwg y stryd fawr – baw ci, chewing gum ayyb.
“Nes i gynnig llnau’r pafin gyda’r jetwasher. Gyda help gan y Cynghorydd Rheinallt Puw mi gafwyd cyllid gan y Loteri, Treftadaeth y Byd, a phobol leol i wneud y gwaith.
“Dwi wedi bod ati ers tair wythnos, a gobeithio ei gorffen heddiw!
“Mae llawer o bobl wedi canmol y gwahaniaeth.
“Gyda thipyn o lwc bydd pobl yn parchu’r stryd ychydig bach mwy.”
Am fanylion busnes Ffenestri Sgwâr, a rhagor, cliciwch yma