Bydd casgliad diweddaraf y cerddor gweithgar o Gerlan ger Bethesda ar gael yn fuan iawn. Er ei fod yn weddol newydd i’r sîn, mae ei ganeuon indie, roc, blues a phop sy’n y Gymraeg a’r Saesneg yn dod yn sŵn cyfarwydd i lawer.
Felly beth yn union yw’r EP ’ma?
Cafodd flwyddyn o hanner werth o gyfansoddi, crefftio a sgwennu o ei recordio dros gyfnod o fis gyda chymorth Sam Durrant yn Stiwdio Un yn Rachub, a chyda chefnogaeth sesiwn gerddor Dan Cutler. Enw’r casgliad newydd yw ‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd’. Mae 5 trac arni sef:
- Dim Gwahaniaeth
- Pan Mae Fory’n Dod
- Paent Ar Y Garreg
- Sbardun
- Colli Ar Fy Hun
Yn sicr, mae themâu pendant yn cysylltu’r caneuon: yr angen am gymdeithas decach, fwy gwir, lle nad yw problemau yn cael eu stwffio dan y carped. Mae’n canolbwyntio ar fywyd pobl ifanc a herio’r canfyddiad o ddi-faterwch yn eu plith – yn brotest bron yn erbyn annhegwch a difaterwch.
Mae sawl problem yn codi fel difaterwch gwleidyddol a chydymffurfiaeth, problemau cyffuriau, iechyd meddwl ac alcohol, effaith cyfyngiadau ar fywyd cymdeithasol, dicter a’r gallu i ddelio gyda hyn, a cholli hunaniaeth mewn amseroedd caled, a’r angen i droelli ar drywydd gwell.
Grêt! Felly sut ydw i’n cael gafael ar hon?
Mae’r EP yn swyddogol yn dod allan ar y 4ydd o Fehefin. Mi fydd hi allan ar Spotify, Apple Music, iTunes Store a llefydd tebyg ar y we bryd hynny.
Ond, mae yna sêl-buan yn digwydd ar iTunes Store ar 28 Mai.
Hefyd mae CDs ffisegol ar gael, a gallwch eu cyn-archebu rwan! Byddwch yn cael y rhain wythnos yn gynnar ar y 28ain o Fai a dyma’r prisiau:
EP – £6.99
EP wedi’i arwyddo – £7.99
(postio – £2 ychwanegol)
Gallwch archebu drwy anfon neges breifat (DMio) Dafydd Hedd ar ei dudalen Facebook, Instagram (@dafyddhedd) neu ebostio dafyddhedd@outlook.com