Murlun yn dod a lliw a blas o hanes i stryd fawr Bethesda 

Mae’r murlun newydd yn dathlu ein gorffennol diwylliannol a diwydiannol 

Mae’n debyg fod unrhyw un ohonoch sydd wedi bod draw i stryd fawr Bethesda yn ddiweddar wedi gweld gwaith yn bwrw ymlaen ar y murlun newydd ar ochr adeilad yn Nhan Twr.

Dathlu hanes a diwylliant 

Erbyn hyn, mae’r peintio wedi gorffen a gwaith arbennig Darren Evans i’w weld yn ei ysblander.

Mae’r prosiect yn dathlu hanes diwylliannol a diwydiannol y gymuned ac yn rhan o ddathliadau Dau-can mlwyddiant Bethesda.

Daw yn dilyn ymgynghoriad gyda’r gymuned leol, ac mae’r murlun yn ymgorffori rhannau pwysig o orffennol Bethesda, gan gynnwys côr dynion a chôr merched Chwarel y Penrhyn, yn ogystal â chyfraniad llenyddol trigolion yr ardal.

Fe’i hariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyd-fynd â chais i sicrhau Statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Ymgynghori â’r gymuned leol

Un sydd wedi bod ynghlwm gyda’r ymdrech i sicrhau’r murlun ydi’r Cynghorydd Rheinallt Puw, sy’n cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd.

“Dwi’n falch iawn inni ymgynghori â’r gymuned leol, ac mae’r canlyniad yn rhagorol,” meddai.

“Mae’r gwaith celf yn amlwg, diolch i ymdrech Dyffryn Gwyrdd, a gliriodd Gardd Tan Twr, yr ardd gyhoeddus o dan y wal.

“Mae datblygiadau cyffrous iawn ym Methesda wrth i ni ddathlu daucanmlwyddiant

“Dwi’n gobeithio y bydd trigolion lleol yn cael cyfle i alw draw ac edmygu’r wal.

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r ymdrech.”

Cyfraniad aruthrol Bethesda i’r byd

Un arall sydd wedi bod draw yn taro golwg ar y murlun trawiadol ydi AS Arfon, Siân Gwenllian.

“Mae gorffennol anhygoel Bethesda fel canolbwynt diwydiannol rhyngwladol yn rhywbeth y mae’r ardal leol yn ymfalchïo ynddo, ac mae’n dda gweld y gorffennol hwnnw’n cael ei gydnabod a’i ddathlu.

“Cynrychiolir ei gorffennol llenyddol gan glawr un o nofelau mwyaf arwyddocaol Cymru Un Nos Ola Leuad, a streic gythryblus Chwarel y Penrhyn gan yr arwydd eiconig ‘Nid Oes Brawdwr yn y Tŷ Hwn’.

“Mae’r murlun yn ein hatgoffa o gyfraniad aruthrol Bethesda i’r byd.

“Mae’n ychwanegiad gwych i ganol Bethesda, ac mae’r gwaith celf yn drawiadol.”