Merched Bethesda yn bencampwyr Gogledd Cymru

Bethesda yn sicrhau y Gynghrair gyda record 100%

gan Rhys Pritchard
C0F0F058-C8FC-4E16-847E

Ddydd Sul sicrhaodd Tîm Criced Merched Bethesda Cynghrair Criced Merched Gogledd Cymru.

Yr Howgets yw enillwyr cyntaf y gynghrair newydd hon, sy’n cynnwys clybiau ar draws Gogledd Cymru fel Bae Colwyn, Llandudno, Dolgellau, Conwy, Llaneurgain (Northop), Northop Hall a Carmel.

Gorffennodd Bethesda’r tymor yn ddi-guro, gyda 14 buddugoliaeth allan o 14 a gorffen ar frig y tabl gyda 70 pwynt. Er bod gan sawl clwb arall gemau ar ôl i’w chwarae, yn dilyn buddugoliaeth Bethesda i ffwrdd yn Bae Colwyn ddydd Sul ni ellir pasio Bethesda yn y gynghrair.

Mae’r tîm wedi bod yn adeiladu tuag at gymryd rhan yn y gynghrair ers peth amser, a’r llwyddiant yn hollol haeddiannol am eu hymroddiad, brwdfrydedd a’u talent.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r garfan ar gyfer tymor nesaf cofiwch gadw golwg ar gyfryngau cymdeithasol y clwb ar gyfer manylion hyfforddiant.