Mae Ogwen360 wedi bod yn holi barn rhieni lleol y Dyffryn ynglŷn â’r syniad o gynnal gwersi yn yr ysgol am bythefnos adeg gwyliau’r haf.
Y nod fyddai rhoi’r cyfle i ddisgyblion ddal fyny efo’r gwaith wedi blwyddyn bytiog o ran gwersi ar-lein.
Er bod y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi’r wythnos diwethaf fod plant ifancaf ysgolion cynradd Cymru yn dychwelyd i’r dosbarth ar ôl yr hanner tymor, mae’r dysgu o bell yn parhau i’r disgyblion hŷn.
Felly ai ymestyn y tymor yw’r ateb? Fydd pythefnos ychwanegol yn gwneud yn iawn am golli blwyddyn o addysg? Ai addysg yw’r brif flaenoriaeth?
Dyma farn dau riant…!
“Neith pawb ddal i fyny yn eu hamser eu hunain”
“Dw i yn erbyn o fel rhiant,” meddai Angharad Thomas Roberts, “mae plant yn gyffredinol wedi bod o dan gymaint o straen dros y cyfnod yma.
“Dim bai ar athrawon – cyfarwyddyd mae athrawon yn cael – ond mae’r pwysau wedi bod yn tyff, felly dwi’n anghytuno hefo’r syniad.
“Os oes yna bwyslais ar ffitrwydd ac iechyd meddwl – bod nhw’n cael cymdeithasu, cael gwneud chwaraeon a bod nhw’n cael cymysgu – fyswn i for it – achos dyna maen nhw angen.
“Dydyn nhw ddim angen pwysau gwaith, dydyn nhw ddim angen dal i fyny – neith pawb ddal i fyny yn eu hamser eu hunain – dydi o ddim am hynny.
“Maen nhw angen rhyddid, cymdeithasu ac ychydig o normalrwydd – dyna maen nhw angen.”
Ychwanegodd fod gwyliau’r haf yn gyfnod i blant a rhieni gael ymlacio a mwynhau’r amser gyda’i gilydd, heb orfod poeni am waith ysgol.
“Hollol hollol annheg”
“Dw i’n meddwl y byddai’n hollol, hollol annheg disgwyl i bobl sy’n gweithio mewn ysgol i gario ymlaen yn ystod y gwyliau,” meddai rhiant arall, oedd am aros yn anhysbys.
“Hefyd, fyswn i’n cwestiynu’r ffaith o sgwario hynny hefo’r undebau a thâl.
“Fyddai’n andros o gost ychwanegol os ydyn nhw yn bwriadu gwneud hynny a heb feddwl am yr elfen honno – mae o’n hollol annheg.
“O ran y plant, dydw i ddim yn meddwl bod o gymaint o broblem hefo plant ysgol gynradd. Ond o ran TGAU a Lefel A – mae angen lot fwy o waith arnyn nhw.
“Felly fyswn i’n gyrru fy mhlant i mewn yn llwyr hefo nhw.”
Ychwanegodd bod hi’n andros o her i rieni i gael y balans rhwng gweithio llawn amser a goruchwylio gwaith ysgol y plant.
“Mae’r euogrwydd yn lladd rhywun,” meddai, “mae o’n really torri chdi.”