Mae Partneriaeth Yr Wyddfa wedi lansio ymgynghoriad i wella mynediad a chysylltedd yn ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen ym Mharc Cenedlaethol Eryri, gyda chymorth Trafnidiaeth i Gymru.
Yn benodol, maent yn gwahodd pobol leol i rannu eu barn i helpu i lunio strategaeth i wella’r sefyllfa parcio yn ardal Yr Wyddfa ac Ogwen.
Maent hefyd yn bwriadu annog dulliau trafnidiaeth fwy cynaliadwy, fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng Chwefror 1 a Mawrth 7, 2021.
Dyddiadau a lleoliadau
Llanberis | 6.30-8.30 | Chwefror 24 |
Betws y Coed | 6.30-8.30 | Chwefror 25 |
Beddgelert | 6.30-8.30 | Mawrth 2 |
Bethesda | 6.30-8.30 | Mawrth 3 |
Mae modd archebu lle drwy’r glicio’r ddolen hon neu drwy ffonio: 01286 875860 erbyn Chwefror 16.
“Diogelu’r mynydd a’r ardal gyfagos”
“Mae gorddibyniaeth ar geir i gyrchu safleoedd poblogaidd o fewn calon Eryri ar hyn o bryd a phroblemau parcio dwys ar adegau prysur o’r flwyddyn yn rhwystro dibenion craidd y Parc Cenedlaethol o ddiogelu’r dirwedd, hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad o’r ardal, a chynorthwyo lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol,” meddai Catrin Glŷn, Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa.
“Mae Partneriaeth yr Wyddfa wedi ymrwymo i ddiogelu’r mynydd a’r ardal gyfagos, tra’n gwneud y dirwedd arbennig yn fwy hygyrch i ymwelwyr heb geir a galluogi pobl sy’n cyrraedd mewn ceir i ddod i’r ardal a’i hatyniadau trwy ddulliau amgen.
“Rydym yn gobeithio y bydd cymunedau a rhanddeiliaid lleol yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yn ein helpu i lunio’r strategaeth a llywio’r cynlluniau parcio a thrafnidiaeth gynaliadwy sy’n cael eu datblygu. ”
“Hanfodol ein bod yn sefydlu dull cynaliadwy”
Ychwanegodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Trafnidiaeth Cymru yng Ngogledd Cymru:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi Parc Cenedlaethol Eryri gan ei bod yn hanfodol ein bod yn sefydlu dull cynaliadwy sy’n darparu cyfleoedd integredig i bobl archwilio’r ardal ymhellach ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus.”