Am ffordd i brofi’r Dyffryn!

Ffrindiau’n mynd am sbin ar feic tandem

gan Tom Simone
9Z5A4044-Edit-1

Mae gan Beics Ogwen feiciau trydan, beiciau plant, gweithdy cymdeithasol sy’n agored i bawb, a hyd yn oed tandem!

Mae’r rhain i gyd am ddim i’w defnyddio a’u benthyg ar gyfer pobl sy’n byw yn Nyffryn Ogwen.

Tandem – tro cyntaf

Ychwanegiad diweddar i’n casgliad o feiciau yw’r tandem, ac mae ar fenthyg gan Gymdeithas y Deillion ym Mangor. (Diolch Steven!)

Fe’i defnyddiwyd ar gyfer taith yr wythnos diwethaf gan Gareth Llwyd, sydd â golwg rhannol, a’i ffrind Dafydd Roberts.

Dywedodd Gareth: “Ychydig iawn o brofiad sydd gen i o fynd allan ar dandem. Dwi heb fod ers blynyddoedd maith!

“Ro’n i falch bod Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru wedi rhoi benthyg o un o’r tandemau sydd ganddyn nhw i ni yma ym Methesda.

“Mae’n rhoi cyfle i bobl fynd allan ar dandem, pobl hefo problemau golwg, a phobl eraill hefyd, ac i gael y profiad o fynd allan gyda’i ffrind neu deulu.”

Dywedodd Dafydd: “Dyma’r tro cyntaf i mi fynd ar dandem, ac mae’n brofiad rhyfeddol, rhaid i mi ddeud.

“Dwi wrth fy modd cael ymuno yn y cynllun yma a chael cyfle i weithio gyda Gareth o safbwynt mwynhau’r tandem.

“Dwi’n edrych ymlaen teithio Dyffryn Ogwen gyda Gareth a darganfod rhyfeddodau’r ardal yma.”

Cyngor ar bopeth

Mae Dan Bates a minnau (Tom Simone) hefyd wrth law i roi cyngor ar bopeth sy’n gysylltiedig â beiciau, gan gynnwys sut i wneud eich atgyweiriadau beic eich hun.

Daeth Sian Thomas, sy’n cael modur trydan ar ei beic, draw i un o sesiynau prynhawn dydd Gwener Beics Ogwen i ddysgu rhai sgiliau newydd.

Dywedodd: “Mae’n grêt mynd allan ar feic, i fwynhau’r dirwedd, ond unwaith mai rhywbeth bach mynd o’i le, be mae rhywun yn gwneud wedyn ynte?

“Felly ro’n i werthfawrogi cael gwybod sut i newid teiars, sut i dynnu olwyn, a phethau bach syml.”

Mae Beics Ogwen ar agor bob dydd Gwener rhwng 1pm a 5pm yn adeilad Cefnfaes wrth ymyl llyfrgell Bethesda, mynediad o’r maes parcio uchaf.

Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch tom@ogwen.org

Mae Beics Ogwen yn rhan o brosiect Dyffryn Gwyrdd / Partneriaeth Ogwen ac fe’i hariennir gan y Loteri Genedlaethol.