gan
Huw Davies
Mae hi wedi bod yn wythnos brysur tu hwnt i Dewi a char trydan y Dyffryn Gwyrdd yn danfon bwydydd maethlon Caffi Coed y Brenin ar hyd a lled y fro. Mae’r prosiect hwn a gefnogir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chyngor Gwynedd yn darparu prydau blasus i drigolion yr ardal tra bo’r caffi ar gau. Mae trigolion Bethesda, Tregarth, Rachub a Glasinfryn yn manteisio ar y gwasanaeth sydd bellach yn rhedeg ddeuddydd yr wythnos. Byddwn hefyd yn cyd-weithio gyda’r caffi ar gyfer dathliad Dydd Gwyl Dewi wythnos nesaf – gwyliwch y gofod yma!