Mae Dewi Siôn, perchennog tafarn Y Siôr ac Y Llangollen wedi ymateb i awgrym Boris Johnson y dylai landlordiaid wirio ‘tystysgrifau brechu Covid’ cwsmeriaid wrth y drws.
Er nad oes penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â’r mater, mae adroddiadau’n nodi y gellid sgrapio rheolau ymbellhau mewn tafarndai, os yw tystysgrifau cwsmeriaid yn cael eu gwirio.
Mae rhai Gweinidogion, ar lefel Brydeinig, o’r farn byddai hynny’n caniatáu i dafarnwyr weithredu mewn modd mwy proffidiol.
Fodd bynnag, mae Dewi Siôn yn teimlo y byddai’n creu fwy o drafferth na’i werth, gan greu rhwystrau ymarferol a pheryglu eithrio cyfradd o’i gwsmeriaid.
“Dydi o ddim yn practical o’ gwbl”
“Mae o’n stupid dydi,” meddai’r tafarnwr.
“Mae yna ddigon o drafferth hefo fake ID fel ma’i, be nesa’, fake Covid passports??”
Yn ôl Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, gallai penderfynu a oes angen i gwsmeriaid gael “tystysgrif brechu Covid” neu beidio fod yn “fater i dafarnwyr unigol”.
“Yn bersonol, fyswn i ddim,” meddai Dewi Siôn, “’da ni’n creu awyrgylch digon sâff yn fy marn i fel mai, heb orfod mynd gam ymhellach.
“Dydi o ddim yn practical o’ gwbl i ddechrau hefo’i. Os wyt ti’n dechrau mynd i holi pobl am Covid vaccine passports – ella bod chdi’n alienatio hanner o dy gwsmeriaid di.
“Y peth ydi hefyd, dydw i ddim mewn grŵp at risk fy hun, dwi’n 34 ac felly y chances ydi pan fydda ni’n ailagor, fyddai ddim wedi cael y jab fy hun.
“Felly pa hawl sydd gen i, i droi rownd a deud wrth bobl ‘na gewch chi ddim dod i mewn, ’da chi ddim wedi cael y jab’, pan dydw i heb gael o fy hun.”