Datblygiad Tai Cae Rhosydd 

Galw ar Gyngor Gwynedd i gywiro sefyllfa warthus

gan Gareth Llwyd
Cae Rhosydd
Map.

Map yn dangos ffin Cymuned Llanllechid a Chymuned Bethesda (y ffin ydi’r llinell ddu, gyda Chymuned Llanllechid i’r gogledd a Chymuned Bethesda i’r de). Mae datblygiad tai arfaethedig Cae Rhosydd wedi ei leoli yn y cae sydd gyda’r dot coch ynddo, tra bod stad Maes Bleddyn wedi ei liwio gyda’r dot glas. Pentref Rachub sydd wedi ei leoli ar ochr dde’r map.

Mae Cyngor Cymuned Llanllechid a Menter Iaith Dyffryn Ogwen yn anfodlon iawn ac yn bryderus am y modd y mae Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd a’r gymdeithas dai, Adra, wedi gweithredu wrth newid natur a bwriad y cais cynllunio ar gyfer Cae Rhosydd, Rachub.

 

Mae’r ddau gorff wedi gwneud llanast’ difrifol mewn perthynas â’r datblygiad tai a fwriedir ar gyfer Cae Rhosydd, Rachub. O ganlyniad i gamweinyddu dybryd, ni fydd tai marchnad agored o gwbl yn y datblygiad, a bydd pobl Talybont yn cael blaenoriaeth dros bobl Rachub efo’r tai cymdeithasol. Yn naturiol, mae hyn wedi cythruddo trigolion Rachub a’r cyffiniau.

 

Y bwriad gwreiddiol gan gymdeithas dai Adra oedd codi 30 o dai i ddiwallu anghenion lleol, sef 15 o dai marchnad agored a 15 o dai cymdeithasol. Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal cyn i Adra gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Gwynedd. At ei gilydd, roedd cefnogaeth i’r datblygiad oherwydd y byddai cyfle i bobl leol fedru rhentu tŷ neu brynu tŷ am bris o fewn eu cyrraedd. Cafodd y cais ganiatâd cynllunio yn gynnar yn 2020.

 

Ar ddechrau 2020, darparwyd y wybodaeth ganlynol gan adra am anghenion tai yn lleol i gefnogi’r cais gwreiddiol am 15 o dai rhent cymdeithasol a 15 o dai i’w gwerthu ar y farchnad agored:

 

  • O fewn ward Rachub yn bresennol mae 103 o bobl ar Restr Tim Opsiynau Tai’r Cyngor mewn angen am unedau 1 i 5 llofft gan gynnwys 8% angen byngalo 2 lofft; 9% angen fflat 1 llofft; 11% angen fflat 2 lofft; 19% angen tŷ 2 lofft a 14% angen tŷ 3 llofft.
  • Mae’r ffigyrau uchod ar y Rhestr Tim Opsiynau yn cynyddu’n sylweddol pe bai wardiau cyfagos yn cael eu hystyried sy’n cynnwys Llanllechid, Ogwen, Tregarth, Gerlan a Bethesda ble mae 258 angen tŷ 1 llofft, 355 angen tŷ 2 lofft, 180 angen tŷ 3 llofft, 56 angen tŷ 4 llofft a 3 angen tŷ 5 llofft.

 

Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod cymdeithas dai Adra wedi derbyn caniatâd yn ystod Rhagfyr 2020 i newid natur y datblygiad ar safle Cae Rhosydd o’r hyn a dderbyniodd ganiatâd cynllunio yn wreiddiol. Erbyn hyn, y bwriad yw datblygu 30 o dai cymdeithasol ar rent cyffredinol neu ganolraddol yn unig ar y safle sy’n golygu na fydd darpariaeth tai marchnad agored i’w gwerthu yn cael ei chynnig i gyfarfod y galw’n lleol. Ar ben hynny, bydd pobl Talybont yn cael blaenoriaeth dros bobl Rachub am y tai cymdeithasol gan fod Rachub o fewn terfynau Cyngor Cymuned Bethesda. Mae Cae Rhosydd o fewn terfynau Cyngor Cymuned Llanllechid, ac yn ôl trefn fandio y cyngor sir, rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd â chysylltiad ag ardal y cyngor cymuned.

 

Erbyn hyn, mae Cyngor Cymuned Llanllechid a Menter Iaith Dyffryn Ogwen wedi herio’r broses a ddilynwyd gan Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd i ganiatáu newidiadau sylfaenol a sylweddol I’r cynllun datblygu – newidiadau sylweddol i natur a niferoedd categorïau’r tai, ac felly ym mwriad a phwrpas y datblygiad arfaethedig o ran diwallu anghenion y gymuned leol. Mae’r newidiadau wedi eu caniatáu heb ddarparu cyfle i ymgynghori gyda’r gymuned leol ar y newidiadau i’r cynllun gwreiddiol yr ymgynghorwyd arno yn ystod haf 2019 i ddarparu 15 o dai rhent cymdeithasol a 15 o dai marchnad agored ar gyfer pobl leol am bris o fewn eu cyrraedd.

 

Mae’r broses a ddilynwyd wrth ymdrin â’r cais cynllunio hwn yn dangos yn gwbl glir nad yw Cyngor Gwynedd na chymdeithas dai Adra yn cymryd unrhyw sylw o’r sylwadau a gyflwynir gan y gymuned a’r rhanddeiliaid allweddol yn lleol wrth gyflwyno cais cynllunio gerbron y Pwyllgor Cynllunio sirol.

 

O ganlyniad i’r camweinyddu sydd wedi digwydd wrth ymdrin â’r cais cynllunio hwn yng Nghae Rhosydd, Rachub, galwn ar Gyngor Gwynedd ac Adra i ddatrys y sefyllfa mor fuan ag sy’n bosib yn unol â dymuniad y cynghorau cymuned a’r gymuned leol, ac maen nhw wedi derbyn llythyrau yn galw am hynny.

 

Gobeithio’n fawr y bydd swyddogion y ddau gorff yn datrys y sefyllfa gwbl annerbyniol hon fel bod barn y cyhoedd yn cael ei pharchu. Os mai bwriad y datblygiad tai ydi gwasanaethu’r ardal drwy ddiwallu anghenion tai pobl leol, yna dyletswydd y cyngor sir ac Adra ydi mynd ati’n syth i drefnu –

1. Bod y cynllun gwreiddiol yn cael ei ddatblygu, sef 15 tŷ marchnad agored a 15 tŷ cymdeithasol ar gyfer pobl leol.

2. Bod pobl sydd â chysylltiad â Rachub yn cael blaenoriaeth fel ymgeiswyr am y tai cymdeithasol, fel yr addawyd gan Adra ar y cychwyn.

3. Bod y tai marchnad agored ar gyfer pobl leol am bris o fewn eu cyrraedd, fel yr addawyd gan Adra.