Cynlluniau ar gyfer trac beicio

Rhowch eich adborth ar y syniad o ddatblygu trac ‘pwmp’

gan Tom Simone

Stori gan Calum Muskett

Mae Partneriaeth Ogwen yn gobeithio cymryd prydles ar ddarn o dir ar hen Chwarel Pantdreiniog, uwchben y Stryd Fawr ym Methesda.

Mae’r hen chwarel hon bellach yn ardal eang uwchben maes parcio ac mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i weithio gyda Phartneriaeth Ogwen er mwyn creu trac pwmp cymunedol fydd ar gael yn rhad ac am ddim yng nghornel isaf y safle hwn.

Mae arolwg geo-dechnegol wedi’i gynnal gyda chanfyddiadau sy’n awgrymu bod y safle’n addas at y diben yma. Mae grŵp llywio o drigolion lleol, gyda’r cynghorydd Rheinallt Puw, yn gyrru’r prosiect hwn ac ar hyn o bryd wrthi’n gwneud cais am gyllid.

Beth yw trac pwmp?

Cylch yw trac pwmp o roleri, troadau ar oleddf a nodweddion eraill lle bwriedir i’r beicwyr reidio trwy “bwmpio” yn unig, sef creu momentwm trwy symud eu cyrff i fyny ac i lawr, yn lle pedlo neu wthio’r beic.

Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer beiciau mynydd a BMX. Mae traciau pwmp yn gymharol syml i’w defnyddio ac yn darparu ar gyfer beicwyr sydd ag amrywiaeth eang o lefelau sgiliau.

Pam rydyn ni’n cynnal yr arolwg hwn?

Nod y prosiect hwn yw sicrhau’r budd mwyaf i’r gymuned, a bydd eich adborth yma yn hanfodol yn ei ddatblygiad.

Rydym yn croesawu ac yn ddiolchgar am eich awgrymiadau – rhowch eich adborth i ni trwy lenwi’r holiadur hwn. Cesglir ymatebion tan 15 Mai.

4 sylw

Susan Roberts
Susan Roberts

Syniad ardderchog fysa hwn yn gallu cynwys parc scêtbord hefyd…. fysa y plant wrth ei boddau….. da iawn pawb sydd yn gyfrifol..

Rhiannon Picton Davies
Rhiannon Picton Davies

Dwi yn cytuno hefo Susan Roberts fysa parc scêtbord a trac pwmp yn syniad gwell. Fysan dda ir plant cael rhiwbeth/rwla fedar nhw galw yn peth/lle nhw.

Mae’r sylwadau wedi cau.