Cafodd ei eni ym Mangor ac wedi ei fagu yn Nhregarth a Bethesda, mae Calum wedi dechrau ei yrfa wleidyddol yn lleol iawn. Y tro cyntaf iddo ddod ar y llwyfan gwleidyddol oedd pan ddaru fo redeg ar gyfer y Cyngor ar gyfer Ward Ogwen. Cafodd Calum 2.3% o’r bleidlais pan ymgyrchodd ar gyfer Arfon yn etholiad San Steffan yn 2017.
Dyma ychydig o ffeithiau amdano:
Cwestiynau personol a hwyl: Mae Calum Davies yn hoffi pêl-droed yn fwy na rygbi, ei hoff flas hufen ia yw mint choc-chip ac mae’n hoffi’r mynyddoedd yn fwy na lan y môr neu’r dref. Hefyd, mae’n well ganddo ddarllen llyfr caled yn hytrach na e-lyfrau, ei hoff fodd o drafnidiaeth yw cerdded yn fwy na beicio a sbin yn y car a’i ysbrydoliaeth yw Elon Musk. Mae Calum bellach yn byw yn Llanrug.
Lle mae Calum yn sefyll ar broblemau mawr y byd?
Ynni Niwclear? Yn erbyn.
Annibyniaeth i Gymru? 3/10 (Anghytuno).
Pasbortau brechlyn? Yn erbyn.
Y broblem hinsawdd? Crisis
Cyfnod clo? Wedi bod yn effeithiol.
Ydi BLM wedi bod yn llwyddiannus yn lleihau hiliaeth yng Nghymru? Nac ydi.
Rhannu brechlynnau gyda gwledydd llai ffodus? Ie, ond dim ond ar ôl i ni frechu pawb yma.
Rhyddid crefyddol? Cytuno.
Erthyliadau? O blaid, o fewn rheswm.
Angen fwy o ffocws ar y ffyrdd yn hytrach na rheilffyrdd ond yn cefnogi ail agor rheilffyrdd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth (tebyg iawn i ailagor rhwng Bangor a Porthmadog).
Cwestiynau mwy agored:
Tydi Calum Davies ddim yn bwriadu codi trethi. Os bydd angen codi trethi i ariannu un prosiect, y prosiect fydd yn cael yr arian yw creu cwmnïau technoleg wyrdd.
Ydy hi’n well cadw dosbarth chweched ysgol wledig ar agor, ta ydi hi’n well syniad sefydlu coleg mawr (Coleg Meirion Dwyfor)? Cadw’r ysgolion.
Er mwyn cryfhau’r Gymraeg mae angen gwneud yr iaith yn fwy hygyrch i bobol sydd ddim o Gymru.
Creda Calum bydd twristiaeth yn helpu i gryfhau economi Arfon, fydd hyn yn rhoi mwy o adnoddau inni fuddsoddi mewn buddion cymunedol lleol. Byd hyn yn cryfhau’r cymuned leol.
Yn olaf, er mwyn helpu iechyd meddwl pobl ifanc, mae Calum yn credu fod angen i ni normaleiddio siarad ynghylch iechyd meddwl a byddai yn buddsoddi mewn gwasanaeth cymorth Iechyd Meddwl 24/7 i helpu i gael pobl trwy’r amseroedd anodd hyn.