Sut mae pobl eraill wedi ymateb i’r EP? Cafodd sawl artist ardderchog, mawr a bach yn y Sîn Roc Gymraeg (SRG) gyfle i wrando ar y casgliad ers wythnosau.
Dyma rhai o ymatebion:
Elis Derby (artist) – ‘Rili impressed, swnio tha Oasis ar adegau a datblygiad mawr ers y stwff cynt! Dim Gwahaniaeth yn tîwn.
I Fight Lions (band) – Chi gyd wedi creu EP gret fama. Plenty o variaton, motifs gwahanol a thema diddorol. Caneuon yn catchy a lyrics yn gret! Job anhygoel
Sarah Wynne (MônFM) – Ma fi a Gwion yn lyfio hi!
Omaloma (grŵp) – Wedi gwrando! Wedi mwynhau ?
Bwca (band) – Dwi’n hoffi’r naws seicadelig a ffynci! Tipyn o amrywiaeth rhwng y traciau i weld hefyd!
Llew Glyn (aelod o’r band Gwilym) – Di rili joio’r EP – y cynhyrchu yncŵll arno a chyfansoddi yn top notch! Paent Ar Y Garreg yn ffefryn!
Iwan Pitts (Podpeth + Hansh) – Tiwns gan jiniys ifanc o Pesda. Pob can yn bangar!
Jacob Elwy (Records Bryn, Y Trwbz) – Gyd yn class!
Tom Owen (Artist) – Jyst wow! Masterpiece! Paent Ar Y Garreg yn amazing!
Sion Land (Band Alffa) – Class EP all the way ‘round! Licio Sbardun
Morgan Jones (Band MEL) – Class! Sbardun givin me purple haze vibes gan Jimmy Hendrix, mics da o blues, grunge a chill! 100% downloadio hi pan fyddi allan ar Spotify!
DJ Dilys – Wedi rili mwynhau! Paent Ar Y Garreg a Colli Ar Fy Hun oedd hoff rai fi.
Mr. (Artist) – Wedi mwynhau! Llais yn swnio’n rili dda arno. Wir yn hoffi’r ail gan Pan Mae Fory’n Dod.
Mae sawl person o fewn y sîn wedi gwirioneddol mwynhau’r casgliad, felly fyddwch chi?
Gallwch cael gafael ar gopi drwy yrru neges at Dafydd Hedd: Facebook, Instagram, Twitter – @dafyddhedd Ebost – dafyddhedd@outlook.com
Bydd yr EP allan ar Spotify ar y 4ydd o Fehefin!