Arddangosfa enfawr artistiaid lleol 

Ymylon y Llechen yn dathlu gwaith artistiaid Dyffryn Ogwen mewn arddangosfa yn Oriel Môn

gan Tom Simone

Ymylon y Llechen II

17 Gorffennaf – 5 Medi

Oriel Ynys Món

Bydd arddangosfa ‘Ymylon y Llechen II’ yn arddangos y cyfoeth o dalent greadigol yn Dyffryn Ogwen.

Am 7 wythnos dros yr haf, gall ymwelwyr fwynhau gwaith o fwy na 40 paentwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, crochenwyr, cwiltwyr, cerfwyr ac eraill, yn cynrychioli’r amrywiaeth a chyfoeth yr ardal leol.

Ochr yn ochr â’r artistiaid cyfoes hyn bydd darnau yn darlunio treftadaeth greadigol Dyffryn Ogwen gan artistiaid fel Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Mary Elizabeth Thompson.

Bydd sioe fach hefyd yn Ystafell Llyfrgell Gymunedol Bethesda ar agor yn ystod oriau agor y Llyfrgell. Cefnogir ‘Ymylon y Llechen II’ gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Partneriaeth Ogwen a Gwyl Afon Ogwen.