Wiwar Mynydd

Blas ar redeg mynydd yn Nyffryn Ogwen.

Owain Hunt Williams
gan Owain Hunt Williams

Dwi mewn perthynas symbiotig gyda rhedeg, fel aer yn fy ‘sgyfaint, ac fel bwyd yn fy mol. Dwi’n breuddwydio am ddiwrnodau allan ar y mynydd yn carlamu ar draws y topiau.

Dull trafnidiaeth oedd cerdded a rhedeg i weld ffrindiau yn Nyffryn Nantlle. O ni byth yn un am chwaraeon yn ysgol, yn enwedig chwaraeon tîm. Mae rhedeg mynydd yn esblygiad o ddringo a rhedeg. Y ddau yn cyfrannu i symud yn sydyn drostir anwastad a serth, gyda’r hyder i wybod nad ydwyf yn mynd i ddisgyn (anaml iawn!).

O ni’n cerdded yn y mynyddoedd i gychwyn ond yn rhedeg y darnau gwastad a serth (i lawr). Pâr o drainers New Balance. Dim byd arbennig. Methu fforddio esgidiau mynydd. Dros amser ddysgais i redeg y dringfeydd, hanner cerdded a hanner rhedeg. Gwthio’n galetach bob tro.

Dysgais sut i sgramblo a dringo gyda rhaffau. Dwi’n gyffyrddus ar dir serth mewn esgidiau rhedeg mynydd. Treio codi uchder yn sydyn. Y llinell rasio, llinell syth (Tryfan Crib Gogleddol).

Pob siwrne yn wahanol er yn gyfarwydd. Yr amgylchedd yn newid gyda’r tymhorau. Yn galed, oeraidd ac weithiau yn ddychrynllyd yn y gaeaf (Ysgolion Duon – werth eu gweld), y mynyddoedd yn dyblu mewn maint. Y teimlad wrth dringo allan o gysgod y cymoedd serth ar fore Gwanwyn llachar, yr haul yn cynnig eu hegni a pweru’r corff. Blas y llys pan yn sychedig ar ôl darfod y dŵr, chwilota am y rhai tew tywyll yng nghanol yr Haf a llyfu fy mreichiau er mwyn adennill halen sydd yn diferu allan o fy nghroen fel cawod.

Mae yna ddigonedd o lwybrau yn cychwyn ym Methesda, yn plethu’r strydoedd ac yn arwain am y mynyddoedd. Mae’r Carneddau yn eistedd tu ôl i Fethesda i’r Dwyrain. Mae’r bryn agosaf sef Moel Faban o fewn cilomedr o Rachub gyda golygfeydd anhygoel o Ynys Môn ac Ynys Seiriol. Am daith fwy anturus mae’n bosib anelu am y chwe copa agosaf sef; Moel Faban, Llefn, Gyrn, Moel Wnion, Drosgl a Gyrn Wigau. Siwrne o ddeutu 6 milltir (10 cilomedr) yn cychwyn ar ddiwedd Ffordd y Mynydd, Rachub. Uchafbwynt yw gweld ceffylau’r Carneddau wedi eu dotio ar y llethrau.

Ar ochr arall i’r dyffryn mae Moel y Ci. Cymysgedd o lwybrau coedwig, mynydd agored gyda thraciau cul a chudd yn y grug. Bryn bach annibynnol gyda golygfeydd o’r Eifl i’r Gorllewin a chychwyn y Glyderau (Carnedd Filiast ac Elidir Fawr) i’r De Ddwyrain. Mae ‘na gaffi yn Fferm Moelyci sydd yn fonws!

Ewch am antur, ewch i redeg mynydd.

Clwb rhedeg lleol – Rhedwyr Eryri

1 sylw

Owain Schiavone
Owain Schiavone

Hwn yn ddarn ardderchog Owain – mae dy ddawn trin geiriau bron cystal a dy ddawn rhuthro lawr elltydd carregog!

Mae’r sylwadau wedi cau.