Tipyn o liw 

Rhannu blodau gyda’r Feddygfa a Phlas Ogwen

gan Tom Simone

Pleser oedd cael rhannu blodau heddiw gyda staff Meddygfa’r Hen Orsaf Bethesda. Cafodd Dyffryn Gwyrdd y blodau gan Marks & Spencer fel rhan o’r cynllun ‘Cefnogi Cymunedol’.

Tipyn o liw ar ddiwrnod tywyll, gwlyb i godi calon pawb a diolch i’r staff am eu gwaith arbennig yn edrych ar ôl ein cymuned!

Yn y llun mae Huw Davies, Dyffryn Gwyrdd a Myfanwy Owen, Meddygfa Bethesda.

Hefyd, cafwyd sawl tusw nos Fawrth ac aed a nhw i Blas Ogwen ddydd Mercher – tipyn o liw cynnar ar gyfer y Dolig!

Yn y llun mae Sharon Wynne Williams, Fflur Puw, Plas Ogwen, a Huw Davies.