Beth yw #CyfresRhagfyr?
Yn gyntaf, mae’n ffordd gerddorol newydd i gyfri lawr yr adfent. Mae gen i (Dafydd Hedd), 21 o ganeuon allan ar yr ennyd hon, ac felly penderfynais i wneud fideo/perfformiad bach o bob cân, wedi ei ddewis ar hap hyd at Ragfyr 21, fel ryw gyfres o fideos wedi ei henwi Cyfres Rhagfyr.
Lle allai wylio’r fideos ma’?
Gallwch wylio y rhain wrth roi’r blaennod #CyfresRhagfyr i mewn i Facebook neu Instagram neu drwy ddilyn cyfrif @dafyddhedd. Mae croeso i unrhyw artist gwahanol ychwanegu eu cherddoriaeth i’r blaennod. Y gobaith yw bod #CyfresRhagfyr yn troi i mewn i blatfform i gerddorion arall gwneud yr un peth pob blwyddyn er mwyn cyfri lawr at y Nadolig. Mae sawl fideo ar gael drwy grwpiau fel Côr-Ona neu Pesda Positif ac ati yn y gymuned.
Beth fydd yn digwydd ar ôl Rhagfyr 21?
Mae newyddion da i ddod. Rwyf yn trefnu gig gyda Neuadd Ogwen er mwyn gallu dathlu’r Nadolig. Bydd pres a gesglir drwy tips Buy Me a Coffee yn cael ei roi at achos da. Does dim manylion eto o ran pryd bydd hyn yn digwydd, ond mi fydd gig yn dod, yn tybio does dim newid o ran y cyfyngiadau.
Pam greu’r syniad hon?
Credaf fod cerddorion wedi bod drwy amser called iawn dros y cyfnod, ac fel mae prif gymeriad y ffilm “Elf” yn ei ddweud “the best way to spread Christmas cheer is to sing loud for all to hear!”
Mae cerddoriaeth yn ffordd ffantastig i godi calon dros y cyfnod a hel pres at achos da felly, pam lai?
Nadolig llawen i bawb, ac edrychaf ymlaen at y gig yn Neuadd Ogwen (drwy ffrydio wrth gwrs)