Mae siopa’n lleol yn bwysicach nag erioed 

Rhesymau i gefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn

Lisa Tomos
gan Lisa Tomos
SCRABELS

Eitemau unigryw a hardd a wnaed a llaw gan ferch o Bethesda.

Ann Catrin Evans

Mae’r gofaint Ann Catrin Evans a chysylltiadau teuluol a Bethesda ac wedi cefnogi Siop Ogwen ers ei agor. Mae Ann yn artist enwog yng Nghymru ac yn sylfaenydd Siop Iard yng Nghaernarfon a chyrsiau Iard yng Nglynllifon.

Cadwyn Ogwen

Mae sawl neges wedi ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar sydd wedi bod yn annog pobl i gefnogi busnesau bach annibynnol drwy brynu gymaint â phosibl yn lleol ar gyfer anrhegion Nadolig eleni.

Yn dilyn hyn, dyma grynhoi rhai o’r prif resymau dros gefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn:

– Hwb i’r economi leol

Bob tro rydych chi’n prynu rhywbeth yn lleol, rydych chi’n buddsoddi arian yn yr economi leol. Pan fyddwch chi’n gwario arian mewn busnes lleol, mae swm sylweddol yn dychwelyd i’r gymuned leol. Mae’r incwm hwn yn helpu i feithrin twf economaidd a datblygiad lleol, gan fod o fudd i bawb yn ein cymuned.

– Cynnyrch unigryw a gwreiddiol 

Mae’r cynnyrch yn unigryw ac yn wreiddiol ac ni fydd unrhyw un arall hefo’r un cynnyrch a chi. Mae rhywbeth arbennig am brynu cynhyrchion lleol na allwch eu cael yn unrhyw le arall

-Cefnogi pobl leol 

Mae cefnogi busnes bach yn uniongyrchol yn cefnogi breuddwyd ac angerdd unigolyn ac yn llythrennol yn eu helpu i dalu eu biliau bob mis. Mae’r cynhyrchwyr yn aelodau o’n cymunedau ni ac yn gymdogion, ffrindiau a theulu ac mae pob pryniant yn golygu cymaint mwy i fusnes bach, a gallech chi fod yn gwneud diwrnod rhywun!

– Cynaliadwy 

Mae busnesau bach, dan berchnogaeth leol, yn creu cymunedau sy’n fwy llewyrchus, cysylltiedig, ac yn gyffredinol well eu byd ar draws ystod eang o fesurau. Mae busnesau lleol yn gyffredinol yn defnyddio deunydd mwy lleol, llai o drafnidiaeth, ac yn cyfrannu i leihau effaith amgylcheddol. 

A beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi busnesau annibynnol a lleol Dyffryn Ogwen?  

Wrth gwrs y ffordd orau o gefnogi busnes yw prynu’r cynnyrch ond nid yw hynny bob amser yn bosibl, yn enwedig ar hyn o bryd. Mae ffyrdd eraill o gefnogi busnesau hefyd:

– Rhannu a chefnogi ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynyddu cyrhaeddiad y busnes.

– Argymell y cynnyrch yr ydych yn ei garu gyda ffrindiau a theulu. 

– Rhoi adborth a thystebau er mwyn cefnogi busnesau sydd newydd ddechrau.

– Mynychu ffair grefft a digwyddiadau lleol. Yn amlwg mae hyn yn ddibynnol ar gyfyngiadau Cofid-19 ond pan fydd pethau’n dychwelyd i’r arferol – mae’n ffordd dda o gefnogi’r economi a’r gymuned leol.

– Prynu anrhegion a chardiau rhodd i bobl eraill. Gyda’r Nadolig yn agosáu, ystyriwch gefnogi busnesau bach lleol yn hytrach na chwmnïau mawr. Yn enwedig ar hyn o bryd, pan mae popeth mor ansicr i gynifer o fusnesau bach, mae’n gyfrifoldeb i ni gefnogi eu busnes.

Mae sawl gwefan a’r gael i ddarganfod y busnesau lleol sydd ar gael yn Nyffryn Ogwen.

Cadwyn Ogwen – https://www.ogwen.wales/en/cadwyn-ogwen/

Siop Ogwen – https://www.partneriaethogwen.cymru/cy/prosiectau-eraill/shop-owgen/

Neges ar grŵp Facebook i rhannu cwmnïau bach lleol – https://www.facebook.com/groups/1905883489696921/permalink/2813874202231174/