gan
Huw Davies
Pleser o’r mwyaf oedd cael cynnal ymweliad ar ynni adnewyddadwy gyda disgyblion brwdfrydig Ysgol Rhiwlas wythnos yma.
Mae Cyd Ynni yn gorff sy’n cyd-lynu gwaith grwpiau ynni cymunedol yng Ngwynedd – Ynni Anafon, Ynni Ogwen, Ynni Padarn Peris, Moelyci ac Egni Mynydd.
Cefais y cyfle’i drafod creu ynni glan gyda’r disgyblion a hefyd i drafod sut ‘rydym yn arbed ynni – llawer iawn haws a llai o ol-troed carbon na mynd ati i’w greu o’r newydd! Ein gobaith yw bod y plant wedi mynd adre’i holi’u rhieni a theuluoedd am eu defnydd ynni a gweithio ar sut i leihau hynny.
Diolch yn fawr i’r disgyblion, y ddau Mr Davies ac Anti Yvonne am y croeso.
Huw Davies, Swyddog Datblygu Cyd Ynni.