Er nad yw’n credu y bydd unrhyw fath o normalrwydd yn perthyn i’r gwersi, mae Gethin Thomas, prifathro newydd Ffederasiwn Ysgolion Abercaseg a Pen y Bryn yn Nyffryn Ogwen yn awyddus i dawelu ofnau rhieni.
“Fydd dim math o normalrwydd yn perthyn i ysgolion pan yn ailagor i ddisgyblion ymhen pythefnos”, meddai.
“Mae ’na gant a mil o gwestiynau […] yr unig beth allwn ni ’neud ydy rhoi’r hyder i rieni ein bod ni’n dilyn pob polisi, asesiad risg, a chanllawiau cystal â gallwn ni.”
Dechreuodd Gethin Thomas ei swydd newydd ar ôl gwyliau’r Pasg eleni, ond oherwydd argyfwng y Coronafeirws mae wedi bod yn ddechrau tra gwahanol i’r prifathro.
Mae’n dweud bod y profiad o ddechrau swydd newydd yng nghanol y pandemig wedi bod yn “dipyn o beth”, a mawr yw ei ddiolch am gefnogaeth staff ag athrawon y ffederasiwn – a hynny gan nad yw eto wedi cwrdd â’r disgyblion.
“Dwi heb weld yr ysgol yn gweithredu yn arferol. Dwi’n hollol ddibynnol ar wybodaeth gyffredinol y staff”, meddai.
“Mae dirprwy ar y ddau safle, ac mae’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud i fy nghefnogi i a’r uwch dim rheoli yn anhygoel.”
Mae 132 o ddisgyblion yn Ysgol Pen y Bryn a 128 o ddisgyblion yn Ysgol Abercaseg.
“Da ni’n gobeithio cael tua 30% o’n plant ni fewn bob dydd, sy’n golygu ein bod ni’n anelu i gael ryw 36 o ddisgyblion ar y ddau safle.
“Da ni am ddechrau gyda’r niferoedd isaf gyda’r gobaith bydd modd i ni gynyddu i tua 42 nes ymlaen – y cyngor yn ôl yr asesiad risg ydy cychwyn yn isel a gweithio i fyny.
“Beth sydd yn anodd ydy bod bob ysgol yn wahanol, nid yn unig o ran maint, ond o ran daearyddiaeth a’r math o ddisgyblion – mae pob ysgol yn unigryw.”
Er hyn eglurodd Gethin Thomas mae’r broblem gyffredinol yn y sir yw bod nifer y disgyblion sy’n blant i weithwyr allweddol yn aml yn uwch na thraean y capasiti.
Cadw cysylltiad yn lleddfu pryder athrawon
Fel pennaeth un o’i bryderon mwyaf dan yr amgylchiadau yma oedd lles y disgyblion.
“Mae 12 wythnos yn gyfnod hir iawn, ac yn yr un modd a gwyliau haf arferol mae cyfnod o absenoldeb fel hyn bob tro yn bryder i ni fel athrawon.
“Ers y cychwyn rydym ni wedi bod yn cadw cysylltiad gyda bob disgybl yn wythnosol, ac wedi rhoi systemau mewn lle er mwyn cofnodi pryderon.
“O ran gwaith cyffredinol does ’na ddim byd wedi newid, yn lwcus i ni mae’r plant wedi arfer â defnyddio system ar-lein i wneud eu gwaith.”
Cefnogaeth “amhrisiadwy” Cyngor Gwynedd
Eglurodd Gethin Thomas fod y gefnogaeth gan Gyngor Gwynedd wedi bod yn “amhrisiadwy”.
“Mae rhaid i mi ddeud mi oedd llunio asesiad risg yn fy mhoeni i gychwyn, ond rydym wedi cael arweiniad arbennig o dda gan y sir.
“Rhaid cofio bod yr asesiadau risg yn cwmpasu iechyd cyhoeddus hefyd. Mae cyfrifoldeb arnom ni fel ysgolion am ein disgyblion a’n staff, ond mae hefyd gennym gyfrifoldeb dros y gymuned ehangach.
“Mae’r swyddogion addysg yn ymwybodol mai ni sy’n nabod ein hysgolion orau, ac wedi rhoi’r hyblygrwydd yna i ni er mwyn gwneud beth sydd orau ar gyfer ein hysgolion ni.”
Gwrthwynebiad undebau
Mae mwyafrif ysgolion Cymru wedi bod ar gau ers Mawrth 20, ac mae undebau athrawon wedi mynegi eu pryderon am ail agor ysgolion ar Fehefin 29.
Dywedodd UCAC eu bod yn “gresynu’n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ailagor cyn yr haf”.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru’r NEU, David Evans: “Mae’n ormod, yn rhy fuan”, ac mae arolwg gan Unsain yn dangos bod 72% o staff ysgolion yn credu na ddylai ysgolion ail agor tan fis Medi.