Yn dilyn ymgyrchoedd cyhoeddus amlwg gan yr awdurdodau dros yr haf, mae amryw o geir wedi parcio yn anghyfrifol ar ymyl yr A5 heddiw ger Llyn Ogwen.
Yn lleoliad poblogaidd gyda cherddwyr a mynyddwyr, mae materion parcio wedi bod yn fater o bryder yn ers peth amser. Mae galwadau yn lleol wedi bod am wella cysylltiadau gyda gwasanaethau bysiau a sefydlu cynllun parcio ym Methesda er mwyn cludo cerddwyr i ardal y llyn.
Ond mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw, mae Traffig Cymru (asiantaeth sy’n gyfrifol am gefnffyrdd ar ran Llywodraeth Cymru) wedi datgan siom fod modurwyr wedi parcio yn groes i’r rheolau.
Meddai’r neges: “Mae’n ymddangos nad yw rhai pobl yn cael y neges.
“Er gwaethaf rhybuddion ac arwyddion clir, mae cerbydau’n dal i barcio yn anghyfreithlon ar yr #A5 yn Llyn Ogwen.
“Bydd y cerbydau hyn nawr yn cael eu symud.”
Felly cofiwch, os ydych chi’n meddwl mynd am dro yn yr ardal yfory (Dydd Sul), defnyddiwch y meysydd parcio swyddogol.
(Lluniau o gyfrif Twitter Traffig Cymru)