Mawr fu’r dathlu yn swyddfa Partneriaeth Ogwen heddiw ar ôl derbyn cadarnhad fod cais ‘Dyffryn Gwyrdd’ i Raglen Wledig Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn llwyddiannus. Mae’r Bartneriaeth wedi derbyn bron i hanner miliwn o bunnoedd, £494,670 ar gyfer y prosiect tair blynedd i ddatblygu ac hyrwyddo Dyffryn Ogwen fel ardal gynaliadwy. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar daclo tlodi trafnidiaeth a thlodi tanwydd, unigedd gwledig a grymuso’r cymunedau hynny.
Dywedodd Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen “Rydym wrth ein boddau, ac yn teimlo ein bod wedi ennill y Loteri yma’n Nyffryn Ogwen! Ers sefydlu’r Bartneriaeth yn 2013, ‘rydym wedi mynd o nerth i nerth. Ein bwriad nawr yw gweithio gyda’n partneriaid craidd, y gymuned leol ac ein gwirfoddolwyr i wireddu’r weledigaeth. Byddwn yn datblygu’r Dyffryn Gwyrdd i fod yn esiampl o ddatblygiad cynaliadwy gyda chynllun trafnidiaeth gymunedol, cynnydd mewn cyfleoedd gwirfoddoli, gwella sgiliau a chreu swyddi. Byddem hefyd yn datblygu Hwb y Dyffryn Gwyrdd yn Stryd Fawr Bethesda i fod yn ganolfan ar gyfer cyngor a
chymorth ar effeithlonrwydd ynni i’n trigolion. Bydd hyn yn grymuso’n cymunedau i wireddu’n gweledigaeth o gymuned deg, gynaliadwy ddwyieithog sy’n cydweithio i liniaru ar dlodi drwy gydweithio amgylcheddol”.
Dywedodd Rona Aldridge, Cadeirydd pwyllgor Rhaglen Gwledig Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol “Fe gymeradwyodd y pwyllgor y cais hwn yn frwd. Fe wnaeth ymrwymiad Partneriaeth Ogwen i adeiladu ar eu gwaith cadarnhaol presennol gyda’r gymuned i greu y prosiect hwn i gael canlyniadau cynaliadwy gryn argraff arnom.” Ychwanegodd Huw Davies, Cyd-lynydd y Dyffryn Gwyrdd “ Mae’r newyddion ardderchog yma’n dystiolaeth o’r ymgynghori a wnaethpwyd gyda’r gymuned a’r brwdfrydedd sydd gan ein trigolion led-led y dyffryn i gyd-weithio gyda ni fel Partneriaeth er mwyn gwella a chryfhau y dyffryn, yn gymunedol, amgylcheddol a chymdeithasol”.