Mynychodd mwy na 50 o bobl ddigwyddiad yn hyrwyddo beiciau trydan., a gynhaliwyd ddydd Sul yn Llys Dafydd, Bethesda.
Trefnwyd y digwyddiad gennyf i Tom Simone, Gweithiwr Llesiant a’r Amgylchedd, ar gyfer prosiect Dyffryn Gwyrdd sy’n cael ei redeg gan Bartneriaeth Ogwen, wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri.
Nodau’r digwyddiad oedd:
1. Darparu gwybodaeth am feiciau trydan a’u retro-osod.
2. I bobl rwydweithio.
3. Ymgynghori â’r cyhoedd ar y ffordd orau i hyrwyddo beicio yn Nyffryn Ogwen, gyda’r nod o fod o fudd i’r amgylchedd, yn ogystal ag iechyd a lles pobl.
Os hoffech gyfrannu eich meddyliau a’ch syniadau, llenwch yr holiadur byr hwn.
https://forms.gle/yYYBY2uAY4T2Jqzn6
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn gyda’r cyhoedd, amrywiol arbenigwyr, sefydliadau a busnesau, byddaf yn ysgrifennu Cynllun Beicio ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Gallwch anfon e-bost ataf – tom@ogwen.org – os hoffech gael mwy o wybodaeth.