Gwaith gwella yn ddim ond ffordd “o dawelu” cwynion tros gynllun gollwng pysgod
Mae un o swyddogion cymdeithas bysgotwyr afon Ogwen yn dweud mai “ffordd o gadw’r pysgotwyr yn dawel” yw prosiect diweddara’ Cyfoeth Naturiol Cymru i greu llwybr i eog i fyny’r afon.
Yn ôl Morgan Jones, Trysorydd Cymdeithas Genweirwyr Ogwen, does dim arwyddion eto o gynnydd mewn pysgod yn sgil gwaith i wella llwybr pysgod ar gored Banc Ogwen,
Roedd pysgotwyr wedi bod yn galw am waith o’r fath ers deng mlynedd, meddai, ond mae’n amau mai ffordd yw hyn o dawelu anfodlonrwydd pysgotwyr dros gynllun sy’n eu gorfodi i roi pysgod yn ôl yn y dŵr.
“Does yna ddim lot o bobol yn licio’r “catch and release scheme” a lot yn cwyno amdano, felly dwi’n meddwl mai ffordd Cyfoeth Naturiol Cymru o’n cadw ni’n dawel ydi o.”
Y cynllun
Mae’r gwaith ar afon Ogwen yn un o nifer o gynlluniau tebyg y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi eu gorffen yn ddiweddar.
Roedd y gored wedi ei godi yn yr 1930au ac wedi bod yn dirywio’n gyson, meddai’r corff, ac fe fydd y gwaith o’i wella yn golygu bod rhagor o bysgod yn gallu cyrraedd yn uwch yn yr afon.
- Roedd cynlluniau eraill yn cynnwys gwaith ar: Nant Clwyd, Clwyd
- Afon Wen, dalgylch Mawddach
- Afon Tryweryn, Eryri
- Afon Dwyfor, Eryri
Roedd y gwelliannau’n cynnwys:
- Atgyweirio llwybrau pysgod
- Gosod morgloddiau a chodi lefelau i dŵr i’w gwneud yn haws i’r pysgod deithio i fyny’r afon
- Gwella safleoedd lle mae pysgod yn silio neu ddodwy
Oedi
“Ar ben hynny” meddai, “Mae Ynni Ogwen wedi adeiladu argae arall yn is i lawr sydd yn creu rhwystr arall ac wedi cael ei adeiladu mewn ‘fish resting zone’.”
Mae golwg360 yn aros am ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i’r feirniadaeth.