Mae Gruff Rhys ar restr fer Gwobr Cerddoriaeth Gymreig 2020 gyda’i albwm newydd, Pang!
Dyma ei chweched albwm, 14 mlynedd ers ei albwm unigol gyntaf.
Enillodd y wobr yn 2009 gyda’i albwm Hotel Shampoo.
Yn ôl rheolwr Neuadd Ogwen, Dilwyn Llwyd, dyma gydnabyddiaeth haeddiannol i hogyn lleol sydd yn ysbrydoli efo’i greadigrwydd.
“Dw i’n hoff iawn ohono fo!”
Mae’n amlwg bod yr albwm Pang! yn plesio ac mewn sgwrs gydag Ogwen360, dywedodd y cerddor ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd:
“Mae’r record Pang! yn ofnadwy o dda, dw i’n hoff iawn ohono fo.
“Dw i wedi prynu fo yn ddigidol ac ar record hefyd – gan bo’ fi’n licio fo gymaint!”
Wedi ei recordio dros 18 mis, mae Pang! yn cynnwys cerddorion o bob cwr o’r byd, gyda geiriau Gruff Rhys yn y Gymraeg, bas gan Muzi, artist electronig o Dde Affrica, a drymiau gan Kliph Scurlock sy’n Gymro-Americanaidd.
“Dw i wedi tyfu i fyny yn licio lot o gerddoriaeth o Fethesda – grwpiau fel Maffia Mr Huws a Celt,” meddai Dafydd Hedd, “ond mae’n braf bod mwy o bobl o’r ardal yma’n cael eu cydnabod am bod nhw’n gwneud cerddoriaeth grêt!”
Neuadd Ogwen a Gruff Rhys yn cydweithio
Mae Neuadd Ogwen a Gruff Rhys wedi bod yn cydweithio, drwy drefnu Gŵyl Ara Deg a gafodd ei chynnal y llynedd, ac mae ganddyn nhw gynlluniau ar gyfer y flwyddyn yma hefyd.
“Eleni fyddwn ni’n rhyddhau cynnwys digidol,” meddai rheolwr Neuadd Ogwen, Dilwyn Llwyd, “gan obeithio bydd yr ŵyl yn ôl yn fyw flwyddyn nesaf.”
Wrth drafod y manteision o gydweithio gydag un o gewri’r sîn gerddorol Gymraeg, dywedodd:
“Mae o’n grêt – mae ganddo fo lwyth o syniadau ac mae o’n adnabod cymaint o bobl. Mae ganddo fo lot o ddiddordeb mewn artistiaid newydd hefyd ac mae o’n dod i fyny hefo syniadau anhygoel!
“Mae Gruff jyst yn hogyn lleol sydd ddim meddwl dim byd o’i lwyddiant ei hun, mae o’n gallu gwneud pethau ar wahanol lefelau, yn rhyngwladol ac yn lleol.
“Mae’r ffaith bod o mor greadigol yn ysbrydoliaeth yn ei hun – mae ei lwyddiant o’n rhywbeth arall.”
Mae modd darllen mwy am weddill yr artistiaid sydd wedi eu cynnwys ar y rhestr fer yma.