100 o goed wedi’u plannu mewn dwy awr!

…diolch i awydd, pladur a rhaw, a’r meddwl am banad cynnes wedyn

gan Tom Simone

Daeth criw bach o bobl Bethesda at ei gilydd i blannu llond sach o goed derw yn Gerlan.

Rhodd oedd y coed gan DEG (Datblygiadau Egni Gwledig), cwmni cymunedol sydd isio gweld budd cymunedol ac felly wedi meddwl am yr anrheg Nadolig hwn i ni yn Nyffryn Ogwen.

Rhan o waith Dyffryn Gwyrdd oedd y plannu, prosiect wedi ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n rhan o Bartneriaeth Ogwen. Mae’n anelu at wneud ein dyffryn yn wyrddach, yn decach, ac yn fwy llewyrchus.

Dywedodd Judith Kaufmann, gweithiwr Llesiant a’r Amgylchedd prosiect Dyffryn Gwyrdd: “Roedd hi’n wlyb dan draed efo glaw diweddar, a gwlyb o’r awyr yn bwrw eira, ond wnaethon ni lwyddo i blannu 100 o dderw mewn cwpwl o oriau, diolch i awydd, pladur a rhaw, a’r meddwl am banad cynnes wedyn.

Byddwn hefyd yn plannu coed ffrwythau gyda gwahanol grwpiau cymunedol dros yr wythnosau nesaf, gyda’r bwriad o annog tyfu bwyd yn lleol a denu bywyd gwyllt. 

Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i blannu coed heddiw!”