Galw am atal ymgynghoriad i gau chweched dosbarth

Ymgyrchwyr yn mynegi pryder am yr effaith gall dyfodol addysg ôl-16 gael ar yr iaith.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryder am yr effaith posib ar yr iaith o gau’r chweched dosbarth mewn cymunedau fel Bethesda, Penygroes, a Llanrug.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gabinet Cyngor Gwynedd i atal penderfyniad ar ddyfodol addysg ôl-16 yn Arfon, a dysgu gwersi gan Gyngor Sir Ceredigion.

Bydd y Cabinet yn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 10) i lansio ymgynghoriad.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Cabinet i atal y penderfyniad ac yn gofyn i’r Cyngor ddechrau paratoi cynlluniau i gyflwyno e-ysgolion yng Ngwynedd fel y mae Cyngor Ceredigion wedi ei wneud.

Angen i Wynedd ddysgu o lwyddiant Ceredigion

Yr wythnos ddiwethaf, adroddodd Ceredigion ar y camau llwyddiannus iawn i ehangu’r dewis o bynciau trwy ddarparu gwersi drwy’r fideo a’r wê.

“Ar amser pan mae Cyngor Gwynedd yn cwyno am ddiffyg arian a thorri gwasanaethau, mae’n anghyfrifol iawn ystyried gwastraffu arian ar ymgynghoriad,” meddai Angharad Tomos, llefarydd ar ran Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r ateb dan eu trwyn, yn y sir drws nesaf.”

Maen nhw hefyd yn poeni am effaith amgylcheddol pobol ifanc yn teithio’n bell i dderbyn eu haddysg ôl-16, a thorri’r cyswllt rhwng pobol ifanc a’u cymunedau.