“Oni ‘di rhoi rhywbeth ar Facebook cyn y Nadolig…” meddai’r Welsh Whisperer… “jôc i fod yn onest… llun ohona i mewn tafarn yn dweud, bydda’n neis cael cwrw Welsh Whisperer… wedyn ges i’r alwad ffôn!”
Mae’r hyn gychwynnodd fel jôc rhwng ffrindiau mewn tafarn bellach yn rhan o ymdrech Cwrw Ogwen i ychwanegu bywyd newydd i’r busnes a chreu bwrlwm ar y Stryd Fawr ym Methesda.
Ers i griw o hogiau lleol sefydlu Cwrw Ogwen yn dilyn sgwrs ar gwrs golff yn 2016, maent wedi creu tri chwrw crefft Cymraeg a bellach yn ychwanegu dau gwrw newydd i’r casgliad.
Y neges glir? Bod bob syniad da yn cychwyn mewn tafarn neu ar gwrs golff…!
Mewn sgwrs gydag Ogwen360, mae un o gyfarwyddwyr Cwrw Ogwen, Richard Moore yn trafod y ffyrdd maent wedi addasu dros y cyfnod diweddar a’r shifft amlwg oddi wrth werthiant Cwrw mewn casgenni i’r farchnad boteli.
Cawn drafod y ddau gwrw newydd sef, ‘Cwrw Cap Stabal’ a’r ‘Wales Away IPA’ a phwysigrwydd y gefnogaeth leol yn Nyffryn Ogwen ac yn ehangach.
“Ym Methesda, os ewch chi i Londis maen nhw bron a bod wedi sdopio gwerthu bara a jyst yn gwerthu cwrw!”
Tanysgrifiwch, rhannwch a hoffwch y Podlediad newydd gan Bro360, i glywed hanes difyr mwy o fusnesau sydd wedi mentro’n ddiweddar.