Dyffryn Gwyrdd Partneriaeth Ogwen

Menter ddiweddaraf y Bartneriaeth yn dwyn ffrwyth

Dewi Morgan
gan Dewi Morgan
2020_10_30-fareshare-4

Llond rhewgell o fwyd maethlon

2020_10_30-Bwyd-fareshare

Llysiau, ffrwythau a chig da i’w rhannu.

2020_10_30-Bwyd-fareshare-3

200kg o fwyd wedi’i arbed o’r doman!

  1. Gyda phwyslais ar gefnogi’r gymuned leol a lleihau gwastraff bwyd yn mynd i dirlenwi mae prosiect diweddaraf Partneriaeth Ogwen, y Dyffryn Gwyrdd yn prysur ennill ei blwyf.

Dechreuwyd gwaith y Gronfa Cefnogi Cymunedol nol yn mis Mawrth gan griw o wirfoddolwyr mewn ymateb i’r pandemig Cofid-19. Y bwriad yw rhannu bwyd i’r rheini sydd mewn angen ar hyd a lled y dyffryn ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Darperir ar gyfartaledd tua chwech pecyn bwyd yr wythnos, ond rhagwelir y bydd y galw’n cynyddu dros yr wythnosau nesaf gyda’r cynllun ‘furlough’ yn dod i ben a theuluoedd yn paratoi ar gyfer y nadolig.

Yn ogystal, mae Partneriaeth Ogwen wedi ymuno â chynlluniau Fareshare a Neighbourly sy’n golygu fod y criw yn derbyn oddeutu 250kgs o fwyd yr wythnos a fyddai fel arall yn mynd i’w dirlenwi. Meddai Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen “Ryda ni’n hynod falch o fedru bod yn rhan o gynllun sy’n cyfuno lleihau gwastraff ac ol-troed carbon tra hefyd yn cynorthwyo’n cymuned. Mae’r gymuned leol wasdad wedi bod yn gefnogol i waith y Bartneriaeth ac mae’n braf i ni gael rhoi rhywbeth yn ol”.

Ychwanegodd Huw Davies, Rheolwr Dyffryn Gwyrdd “Mae’r prosiect newydd yma a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhoi cyfle inni gysylltu pobl a bwyd a dechrau trafodaeth am gynaliadwyedd ein cymunedau”

Mae’r bwyd yn cael ei rannu mewn cyd-weithrediad a Neuadd Ogwen bob nos Sul am 5.30pm ac o Hwb y Dyffryn gwyrdd bob nos Fawrth am 7.00pm.

I ddysgu mwy am y prosiect neu i gyfrannu/cymryd rhan cysylltwch a ni: – bwyd@ogwen.org, huw@ogwen.org neu Facebook Partneriaeth Ogwen.  

 

1 sylw

Tom Simone
Tom Simone

Gwych –
Dechreuwyd gwaith y Gronfa Cefnogi Cymunedol nol yn mis Mawrth gan Manon Williams….

Dechreuodd redeg y cynllun fel gwirfoddolwr, ond mae bellach yn cael ei chyflogi gan Bartneriaeth Ogwen.
Hefyd rhoddodd Hydro Ogwen arian i’r cynllun.

Mae’r sylwadau wedi cau.