Mae’r athrawes ioga ac meddwlgarwch, Leisa Mererid wedi creu cyfres o fideos hwyliog i blant, gyda’r nod o helpu i gynnal eu lles a’u hiechyd meddwl.
Bwriad y sesiynau, yw paratoi disgyblion a’u hathrawon am y diwrnod, gan gyflwyno’r maes i’r cwricwlwm … a chael hwyl ar yr un pryd!
Daw’r gyfres, sydd wedi ei chydlynu a’i noddi gan Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd, mewn cyfnod ble mae mwy o bwyslais nag erioed ar ofalu am iechyd meddwl.
“Syml a hwyliog”
Wrth egluro nod ac amcanion y gyfres, dywedodd Leisa Mererid:
“Cyfres o ymarferiadau byr ac effeithiol fydd cynnwys y fideos, i gefnogi iechyd a lles disgyblion, athrawon a cymorthyddion.
“Roeddwn i eisiau trio meddwl am ddulliau syml a hwyliog iawn i gyflwyno ioga a meddwlgarwch i’r cwricwlwm ac i’r ysgolion … ac efallai i bobl sydd heb wneud hynny o’r blaen.
Eglurodd mai’r gyfrinach gydag ioga yw bod yr anadl yn dod yn rhan o’r symudiad, a drwy uno, mae’n cael effaith gadarnhaol ar y system nerfol a thawelu’r corff.
“Mae hi’n gyfnod ansicr ac ansefydlog iawn,” meddai, “ac mae ioga yn helpu i gadw cydbwysedd.
“Dydi o ddim yn mynd i newid ein sefyllfa ni … ond mae o’n mynd i helpu ni i ddelio hefo’r sefyllfa.
“Mae ioga yn ganrifoedd oed ac yn fwy poblogaidd heddiw, na fuodd o erioed ac mae hynny yn brawf ac yn dyst bod o’n gweithio a bod ‘na rhywbeth arbennig iawn amdano fo.”
Teyrnged i’w Mam
“Nes i ddechrau meddwl am y gyfres yn ystod y cyfnod clo cyntaf a does ‘na ddim llawer ers i mi golli Mam.
“Roedd Mam yn brifathrawes ac yn gantores,” meddai, “a hi ysgrifennodd neu gyfieithodd geiriau’r gan ‘Un dydd ar y tro’.
“Yn ystod y clo … hefo galar … un cam ar y tro oeddwn i’n gorfod cymryd. Erbyn hyn, dwi’n teimlo dipyn bach yn well a dwi’n gallu cymryd un dydd ar y tro.
“A dyna ydi’r ymarferion – un cam bach bob dydd.”
Bydd y fideos yn cael eu darlledu yn ddyddiol, ddydd Llun tan ddydd Gwener yn ystod y tymor rhwng Ionawr 4 a Chwefror 26, 2021 ar sianel ddigidol AM Cymru.
“Awyddus i ychwanegu at yr amrediad o adnoddau sydd ar gael”
Yn ôl Ifan Jones, Swyddog Datblygu Iaith gyda Hunaniaith:
“Mae gan Leisa Mererid sgiliau a phrofiad arbennig yn y maes yma ac roeddem yn awyddus i ychwanegu at yr amrediad o adnoddau sydd ar gael yn y maes yma drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Mi fydd patrwm penodol i’r rhaglen sy’n dilyn trefn dyddiau’r wythnos:
- Dydd Llun Llesol,
- Dydd Mawrth Mynegi,
- Dydd Mercher Meddwlgarwch,
- Dydd Iau Ioga,
- Dydd Gwener Gorffwys.
Bydd yr ymarferion byr yn paratoi’r plant ar gyfer y dydd sydd o’n blaenau ac mi fydd posib ail-wneud yr ymarferion sawl gwaith yn ystod y dydd fel bod angen i helpu angori’r dysgu.
“Edrych ar ôl iechyd meddwl yn hanfodol”
Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:
“Rydw i’n falch iawn o weld y ddarpariaeth yma yn cael ei gynnig i staff a disgyblion ysgolion Gwynedd.
“Mae edrych ar ôl iechyd meddwl yn hanfodol er mwyn sicrhau’r dechrau gorau i blant Gwynedd yn ogystal â chefnogi ein hathrawon a chymorthyddion, ac mae’n wych gallu cynnig y cymorth yma drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Mae gwers lyfr hefyd wedi ei baratoi gan Leisa Mererid, er mwyn cefnogi athrawon a chymorthyddion dysgu i arwain eu dosbarthiadau drwy’r ymarferion.
Mae’r wers lyfr wedi eu creu gyda nawdd Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Cyngor Gwynedd.
Gallwch gysylltu â Hunaniaith ar Hunaniaith@gwynedd.llyw.cymru os hoffech gael copi.