gan
Tom Simone
Gyda chefnogaeth Arloesi Gwynedd Wledig, bydd Partneriaeth Ogwen yn cyflogi 4 Swyddog Byw a Bod am gyfnod o 8 wythnos dros yr haf.
Cynllun i bobl ifanc 18-25 i gael profiad gwaith efo mentrau cymdeithasol ydy cynllun Byw a Bod.
O ran dyletswyddau, y cynllun ydy –
Elin Cain i wneud gwaith ymgynghori cymunedol efo Cefnfaes.
Caleb Rhys i weithio efo Grŵp Cymunedol i drefnu Dathlu 200 Mlwyddiant Bethesda
Lisa Tomos i weithio efo fi i wneud ymchwil cymunedol Dyffryn Ogwen
Cadi Roberts i weithio efo ni i drefnu digwyddiadau awyr agored a digwyddiadau llenyddol.