Codi arian i gefnogi Neuadd Ogwen

Y busnes dielw yn creu cronfa ‘crowd funder’ er mwyn cefnogi’r neuadd a’i staff tra bydd ar gau.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Fel nifer o sefydliadau eraill mae Neuadd Ogwen sydd wedi bod yn ganolbwynt i ddigwyddiadau a gigs yn Nyffryn Ogwen ers 2014 wedi gorfod cau ei drysau am gyfnod amhenodol o ganlyniad i’r coronafeirws.

Golygai hyn fod nifer o ddigwyddiadau oedd fod i gael eu cynnal yn y neuadd unai wedi cael eu gohirio neu wedi eu canslo yn llwyr.

O ganlyniad i hyn mae’r neuadd, sydd yn fusnes dielw, wedi creu cronfa ‘crowd funder’ er mwyn codi arian i gefnogi’r neuadd a’i staff tra bydd ar gau.

 

“Parhau i gefnogi prosiectau cymunedol a lleol”

Dywedodd Neuadd Ogwen:

“Rydym yn anelu i godi gymaint o arian â phosibl er mwyn cymryd pwysau oddi ar ein tîm sy’n dibynnu ar eu gwaith ac incwm o Neuadd Ogwen.”

“Ar ôl i fygythiad a risg COVID-19 fynd heibio, rydym yn bwriadu ail-agor yn ôl yr arfer a hoffem barhau i gefnogi prosiectau cymunedol a lleol yn yr un modd ag yr ydym yn gwneud ar hyn o bryd.”

 

Cliciwch yma i fynd i’r gronfa, ble mae modd cyfrannu i’r gronfa, neu archebu tocynnau i ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn y neuadd yn y dyfodol.