Roedd y cerddor Patrick Rimes ar daith yn America gyda’r grŵp werin Calan pan gafodd eu gwaith i gyd ei ganslo dros nos yn sgil y pandemig.
“Neshi endio fyny ar fy nhin nôl ym Methesda, yn byw hefo Mam,” meddai, “ond geshi ddim gormod o amser i deimlo bechod dros fy hun achos oni’n syth i mewn i’r gwaith ar y caws!”
“Ma’ Carrie yn gwneud o swnio yn uffernol o ddiddorol ond hyd y gwelaf i – 90% o wneud caws yw golchi llestri!” medd Patrick!
Mewn sgwrs gyda Bro360 mae Patrick a Carrie yn trafod hynt a helynt cynhyrchu caws a iogwrt ar fferm Moel y Ci yn Nhregarth. Cawn hanes y modd y maent wedi addasu gyda chymorth Cadwyn Ogwen, cefnogaeth trigolion lleol a chwmni ei gilydd dros y misoedd diwethaf.
Tanysgrifiwch, rhannwch a hoffwch y gyfres podlediadau newydd yma gan Bro360, i glywed hanes difyr mwy o fusnesau sydd wedi mentro’n ddiweddar.