Bethesda 20 – Dinbych 22

Uchafbwyntiau gêm rygbi Bethesda v Dinbych ar Dôl Ddafydd

gan Owen Jones

RYGBI – Adran 1 Gogledd
Bethesda 20 – Dinbych 22

Sgoriodd Bethesda 4 cais a dod o fewn 7 bwynt i gyfanswm Dinbych i sicrhau 2 bwynt bonws mewn gêm gystadleuol ar Dôl Ddafydd.

Yn anffodus, doedd dim un o’r 3 ciciwr arferol ar gael ar y diwrnod a chollwyd gêm y dylid fod wedi ei hennill.

Dinbych aeth ar y blaen yn gynnar yn y gêm drwy gic at y pyst gam eu maswr Garin Roberts.

Sgoriodd Bethesda geisiau gan yr asgellwr Aaron Roberts a’r wythwr Arwyn Griffith cyn hanner amser. Yn anffodus, ni lwyddwyd i drosi yr un o’r 2 gais ac roedd cais canolwr Dinbych, Andy Deakin a throsiad Roberts yn ddigon i wneud y sgôr yn gyfartal – 10 pwynt yr un ar yr egwyl.

Dechreuodd Bethesda’r ail hanner yn gryf ac, o fewn dim, sgoriodd yr eilydd brop Gethin Owen gais i’r tîm cartref. Unwaith eto, roedd y trosiad yn aflwyddiannus.

Cafodd yr ymwelwyr gyfnod da wedyn ac, yn dilyn cyfnod o bwyso, aeth yr eilydd gefnwr, Huw Mars-Jones, drosodd yn y gornel am gais na chafodd ei throsi. Cyfartal – 15 pwynt yr un yn y chwarter olaf.

Bu raid i Ddinbych amddiffyn am gyfnod hir wedyn. Yn dilyn cyfres o ymosodiadau a chyfnodau da o feddiant a phasio, aeth yr asgellwr Elis Ogwen Jones drosodd yn y gornel dde am gais na chafodd ei throsi. 20 pwynt i 15 i’r tîm cartref.

Gyda’r gêm yn tynnu at ei therfyn, cosbwyd Bethesda yn eu hanner eu hunain. Yn anfaddeuol, costiodd diffyg disgyblaeth 10 metr ychwanegol iddyn nhw a sicrhaodd yr ymwelwyr lein 5 metr o linell gais y tîm cartref.
Enillodd yr ymwelwyr y lein ac, er ei bod yn ymddangos bod y bêl wedi cael ei tharo ymlaen ar y llawr, dyfarnwyd cais i’r prop Lewys Eden.

Gyda’r sgôr yn gyfartal ar 20 pwynt yr un, ciciodd Roberts drosiad anodd i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i’r tîm o Ddyffryn Clwyd.

Er bod nifer o anafiadau gan y Clwb Rygbi ar hyn o bryd, mae’r Tîm Cyntaf yn dal yn drydydd yn Nhabl Adran 1 gan i ganlyniadau eraill fynd o blaid hogia’ Pesda.