gan
Ohebydd Golwg360
Mae deg o bobol o Lundain wedi cael eu harestio ar ôl teithio i ardal Bethesda.
Yn ôl Heddlu’r Gogledd, roedden nhw’n teithio mewn dau gar ar eu ffordd i gerdded yn Eryri.
Dywed yr heddlu iddyn nhw ddweud wrth y bobol am “fynd adref ar unwaith”, a’u bod nhw wedi cael eu tywys i’r A55.
Cawson nhw eu riportio am dorri rheolau COVID-19, meddai’r heddlu.
Swyddogion yn stopio criw o 10 mewn 2 gerbyd ar yr A5 #Bethesda yn gynharach ar ôl teithio o Lundain er mwyn mynd i gerdded yn Eryri.
Cael eu danfon adref yn syth a'u hebrwng at yr A55 gan @NWPRPU. Wedi'i riportio am dorri cyfraith #COVID19#ArhoswchAdref pic.twitter.com/sGEQVpd8gO
— Heddlu Gogledd Cymru #ArosAdrefAchubBywydau (@HeddluGogCymru) April 26, 2020