Mae enwau ymgeiswyr etholaeth Arfon yn Etholiad San Steffan 2019 wedi’u cadarnhau.
Bydd Gonul Daniels yn cynrychioli’r Torïaid, Gary Gribben yn sefyll dros y Brexit Party, Steffie Williams Roberts o’r Blaid Lafur, a Hywel Williams yw ymgeisydd Plaid Cymru.
Does dim ymgeisydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol na’r Blaid Werdd, wedi i’r pleidiau hynny ddod i gytundeb gyda Phlaid Cymru y bydden nhw’n sefyll i lawr er mwyn ceisio sicrhau bod y bleidlais gwrth-Brexit yn mynd i Hywel Williams.
Bu Hywel Williams yn Aelod Seneddol Arfon ers i’r sedd gael ei chreu yn 2010, a chyn hynny bu’n cynrychioli etholaeth Caernarfon rhwng 2001 a 2010.
Y sedd agosaf yng Nghymru
92 pleidlais yn unig oedd ynddi yn etholiad Mehefin 2017 – dyma’r etholaeth agosaf yng Nghymru y flwyddyn honno:
- Plaid Cymru: 11,519
- Y Blaid Lafur: 11,427
- Y Blaid Geidwadol: 4,614
- Y Democratiaid Rhyddfrydol: 648
Mae Arfon yn cynnwys cymunedau Dyffryn Ogwen, Bangor, Dyffryn Peris, Dyffryn Nantlle a Chaernarfon, ac mae manylion eich gorsafoedd pleidleisio lleol yma.
Bydd yr etholiad yn cael ei chynnal ar ddydd Iau 12 Rhagfyr.
* * *
Isho helpu pobol ardal Arfon i ddilyn hynt a helynt yr etholiad? Cysylltwch â Bro360 i ddarganfod sut y gallwch chi ddefnyddio eich gwefan fro newydd i ohebu ar yr wleidyddiaeth o safbwynt lleol.